Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am ddatblygiad rheoliadau yn ymwneud â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022.

Ar 17 Hydref 2022 rhannodd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yr wybodaeth ddiweddaraf am y pedwar Offeryn Statudol cysylltiedig â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 nad ydynt eto wedi’u gosod gerbron Senedd y DU. Roedd hyn yn cynnwys rhannu’r drafft terfynol o ‘Reoliadau Rheoli Cymorthdaliadau (Gofynion Gwybodaeth y Gronfa Ddata Cymorthdaliadau) 2022’.

Mae’r Rheoliadau hyn yn amlinellu’r wybodaeth am gynlluniau cymorthdaliadau a dyfarniadau perthnasol y mae rhaid ei chyhoeddi yng nghronfa ddata tryloywder cymorthdaliadau’r DU, yn ogystal â rheolau pellach mewn perthynas â chyhoeddi gwybodaeth am Gymorth Ariannol Lleiaf (MFA), Gwasanaethau o Fudd Economaidd Cyhoeddus (SPEI) a chynlluniau treth perthnasol, a sut y dylid ymdrin ag addasu dyfarniadau a chynlluniau.

Rwyf wedi ystyried yr angen i osod memorandwm cydsyniad offeryn statudol ac wedi dod i’r casgliad nad yw’r rheoliad drafft hwn yn ymgysylltu â Rheol Sefydlog 30A na Rheol Sefydlog 30B. Serch hynny, bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio’n sylweddol ar faes datganoledig datblygu economaidd gan fod y gofynion ar gyfer adrodd am dryloywder yn fwy beichus na’r gofynion yng Nghytundeb Masnach a Chydweithredu DU-UE a rhwymedigaethau rhyngwladol eraill. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn cwtogi’r cyfnod amser ar gyfer cyhoeddi mewn modd sy’n cydymffurfio, gan gynyddu’r baich adrodd a roddir ar awdurdodau cyhoeddus y tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol o dan Gytundeb Masnach a Chydweithredu DU-UE neu reolau Cymorth Gwladwriaethol yr UE. Bydd hyn yn effeithio’n sylweddol ar adnoddau a phrosesau grantiau, gan roi baich ychwanegol ar awdurdodau cyhoeddus Cymru wrth iddynt ddyfarnu cymorthdaliadau effeithlon ac effeithiol sy’n cefnogi datblygiad economaidd Cymru.

At hynny, roedd y pŵer galluogi yn adran 34 o Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 (sef Cymal 33 yn ystod proses y Bil) yn un o’r darpariaethau a oedd dan sylw yn y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ym mis Gorffennaf 2021 pan wrthododd Senedd Cymru roi cydsyniad oherwydd bod y “darpariaethau'n effeithio ar faes datganoledig datblygu economaidd a chaiff swyddogaethau eu gosod ar Awdurdodau Datganoledig yng Nghymru mewn perthynas â chymorthdaliadau.” Roeddwn felly’n teimlo ei bod yn briodol tynnu sylw’r Senedd at y mater hwn.