Neidio i'r prif gynnwys

Mabon ap Gwynfor AS, Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae fferyllfeydd cymunedol yn hanfodol i iechyd a llesiant pobl yng Nghymru. Mae eu rôl mewn gofal sylfaenol bellach yn ymestyn y tu hwnt i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at y meddyginiaethau sydd eu hangen arnynt. Maen nhw'n rhan hanfodol o'n system gofal iechyd i bobl sy'n ceisio cyngor a thriniaeth y GIG. Mae brechu rhag y ffliw, y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin ac argaeledd cynyddol fferyllwyr-bresgripsiynwyr yn dangos yr hyn y gall fferyllfa gymunedol ei gynnig: gofal yn agosach at y cartref, gwell mynediad ar gyfer cleifion, a llai o bwysau ar wasanaethau eraill y GIG.

Drwy ein partneriaeth gymdeithasol â'r GIG a Fferylliaeth Gymunedol Cymru, mae cynrychiolwyr fferyllfeydd cymunedol wedi pwysleisio pa mor bwysig yw cadwyn gyflenwi meddyginiaeth gadarn a hyfyw i gynnal y cynnydd y mae'r sector wedi'i wneud wrth ehangu ei rôl. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Aelodau ar draws y Senedd hefyd wedi codi pryderon am brisiau meddyginiaethau cynyddol a'r pwysau y mae hyn bellach yn ei roi ar fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru.

Mae cymhlethdod trefniadau ad-daliadau meddyginiaethau yn golygu y gall cynnydd cyflym ym mhrisiau meddyginiaethau, am resymau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth uniongyrchol, roi pwysau ar lif arian fferyllfeydd. Rydym eisoes wedi cynyddu faint o elw prynu y gall fferyllfeydd ei gadw bob blwyddyn. Fodd bynnag, rwy'n sylweddoli y bydd hyn yn cronni dros amser ac rwyf am gymryd camau ymarferol nawr i fynd i'r afael â'r pwysau tymor byr y mae fferyllfeydd yn eu hwynebu. Felly rwyf wedi cytuno ar ragdaliad untro o £7 miliwn i ddarparu cymorth ar unwaith i bob fferyllfa yng Nghymru.

Bydd fferyllfeydd yn cael y taliad hwn ar ddechrau mis Rhagfyr.

Nid yw'r taliad hwn yn disodli'r angen i gytuno ar Fframwaith Contractiol Fferylliaeth Gymunedol 2026/27 ac rwy'n parhau'n ymrwymedig i egwyddorion partneriaeth gymdeithasol i sicrhau'r cynnydd yn y cyllid sydd ar gael i'r sector. Rwy'n disgwyl i bawb sydd ynghlwm â’r gwaith hwn weithio'n adeiladol i ddod i gytundeb sy'n diwallu anghenion cleifion, contractwyr fferyllfeydd cymunedol a'r GIG, ac sy'n cefnogi datblygiad parhaus gwasanaethau fferylliaeth gymunedol ledled Cymru.

Mae fy mlaenoriaeth yn glir: rhaid i bobl allu cael y meddyginiaethau a'r gofal sydd eu hangen arnynt heddiw, tra ein bod ni'n adeiladu gwasanaeth fferylliaeth gymunedol cryfach, mwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae rhwydwaith fferyllfeydd cymunedol sy'n cefnogi ein huchelgeisiau i ddarparu mwy o ofal yn agosach at y cartref, yn ganolog i ddyfodol gofal sylfaenol yng Nghymru. Mae'r rhagdaliad hwn yn darparu'r cymorth ymarferol sydd ei angen ar fferyllfeydd nawr ac yn eu galluogi i barhau i weithio gyda ni i gyflawni ein huchelgeisiau.