Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd am nifer y rhagdaliadau BPS a fydd yn cael eu gwneud yfory, 12 Hydref.

Bydd dros 96% o hawlwyr yn derbyn rhagdaliad BPS gwerth tua 70% o werth amcangyfrifedig eu hawliad. Bydd dros £158.7m yn cael ei dalu i fwy na 15,600 o fusnesau fferm Cymru.

Eleni, am y tro cyntaf, bydd Taliadau Gwledig Cymru (RPW) yn gwneud rhagdaliadau BPS yn ystod cyfnod talu. Mae hyn yn golygu y bydd rhagor o fusnesau fferm nawr yn elwa ar dderbyn rhagdaliadau BPS.

Bydd y cyfnod talu newydd yn agor yfory ac yn para tan 15 Rhagfyr. Bydd unrhyw fusnes fferm nad yw'n derbyn rhagdaliad yfory, ond y mae ei hawliad yn cael ei ddilysu wedyn cyn 15 Rhagfyr, yn derbyn y rhagdaliad.

Unwaith eto, bydd gweddill taliadau BPS 2023 yn cael eu gwneud yn llawn o 15 Rhagfyr, yn amodol ar ddilysu hawliad y BPS yn llawn. Mae RPW yn bwriadu gwneud y taliadau hyn i gynifer o ffermwyr â phosibl yn gynnar yn y cyfnod dalu.

Rwy'n disgwyl i bob un hawliad BPS ond y mwyaf cymhleth yn cael eu dilysu'n llawn, a thaliadau'n cael eu gwneud cyn diwedd y cyfnod talu ar 30 Mehefin 2024.