Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg

Rwy'n cyhoeddi heddiw y penderfyniad i beidio ag ailbenodi Byrddau Cynghori'r Ardaloedd Menter yn Ynys Môn, Dyfrffordd y Ddau Gleddau a Glannau Port Talbot. Daeth eu tymhorau presennol i ben ar 31 Mawrth 2024. Gyda strwythurau llywodraethu rhanbarthol newydd y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol, Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi'n cael eu datblygu, mae'n briodol felly rhesymoli rhai strwythurau llywodraethu. 

Hoffwn gofnodi fy niolch i'r Cadeiryddion - Mr Roger Maggs MBE, Mr Stan McIlvenny OBE, a Mr Neil Rowlands - Aelodau'r Byrddau, yr awdurdodau lleol, a phartneriaid eraill yn yr holl Ardaloedd Menter am gyfrannu mewn ffordd mor arwyddocaol at wireddu amcanion ac effeithiau cadarnhaol yn eu hardaloedd dros nifer o flynyddoedd.  

Mae datblygu economaidd rhanbarthol yn parhau i esblygu a datblygu a bydd yn rhaid wrth y lefel uchaf o gydweithio rhwng partneriaid a rhanddeiliaid er mwyn parhau i wireddu uchelgais y Llywodraeth hon ar gyfer Cymru decach, wyrddach a mwy llewyrchus.