Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cynnig Bwndel i fwy o deuluoedd ledled Cymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu. 

Gan fod costau byw yn parhau i fod yn uchel, mae llawer o deuluoedd yn dal i wynebu anawsterau wrth dalu am hanfodion y cartref, fel bwyd a gwres. Bydd darparu Bwndel ar sail targedu ardaloedd daearyddol yn lleihau'r pwysau ariannol y mae teuluoedd yn eu wynebu yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. 

Bydd y Bwndel yn cynnwys eitemau fel blanced a dillad cynnes, yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch lle i gael cymorth a chefnogaeth bellach. Bydd cael Bwndel yn sicrhau y bydd gan deuluoedd y nwyddau sy'n hanfodol ar gyfer rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i'w plentyn.

Gan fod cyllidebau ar gyfer 2024-25 wedi'u cadarnhau erbyn hyn, bydd camau'n cael eu cymryd i lunio rhaglen wedi'i thargedu'n ddaearyddol gan elwa ar y gwersi a ddysgwyd o'r adroddiad gwerthuso a gyhoeddwyd a'r ymchwil cwmpasu. Bydd y rhaglen yn cael ei hysbysebu drwy GwerthwchiGymru. 

Rwy'n edrych ymlaen at roi diweddariad pellach ichi ar ddatblygiad y rhaglen a darparu rhagor o fanylion am y broses gofrestru, maes o law.