Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym mewn argyfwng hinsawdd ac argyfwng costau byw - y ddau fater yn taro yr aelwydydd mwyaf bregus fwyaf, a bydd pobl sydd eisoes yn cael trafferth gyda chostau cynyddol bwyd ac ynni hefyd yn teimlo effeithiau anghymesur tywydd mwy eithafol.  Rhaid i ni weithredu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd tra'n cefnogi ac amddiffyn y tlotaf mewn cymdeithas.

Heddiw rwy’n falch o gyhoeddi datganiad polisi y Rhaglen Cartrefi Cynnes. Mae wedi ei lunio a'i lywio gan ddwy ddogfen arall yr wyf hefyd yn eu cyhoeddi heddiw, adroddiad gwersi a ddysgwyd ac ymateb y llywodraeth i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym y llynedd. Mae'r dogfennau hyn i'w gweld yn Yr iteriad nesaf o'r Rhaglen Cartrefi Clyd: gwersi a ddysgwyd

Mae'n bwysig bod y rhaglen Cartrefi Cynnes newydd yn dysgu o'n profiadau o'r gorffennol ac yn adlewyrchu barn ein cymuned bwysig o randdeiliaid, gan gynnwys argymhellion gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Ynni a Seilwaith, a’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

Bydd y cynllun newydd yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a thlodi tanwydd. Yn unol ag ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau trosglwyddo teg i sero net, bydd yn canolbwyntio ar gefnogi'r cartrefi tlotaf, yn yr adeiladau sydd yn y cyflwr gwaethaf, yn y sectorau sy’n eiddo i berchen-feddianwyr, rhent preifat a chwmnïau cydweithredol.

Mae gan Lywodraeth Cymru record gref o ran gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi pobl. Dros y 12 mlynedd diwethaf, buddsoddwyd mwy na £420m i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi trwy'r Rhaglen Cartrefi Cynnes, gan olygu bod mwy na 73,000 o aelwydydd incwm is yn elwa. 

Mae dros 176,500 o bobl wedi derbyn cyngor ar effeithlonrwydd ynni drwy'r Rhaglen Cartrefi Cynnes ers ei lansio yn 2011.

Gan adeiladu ar yr effaith a gafwyd eisoes, byddaf yn cyhoeddi manyleb dendro ar gyfer caffael cynllun newydd, yn seiliedig ar alw yn fuan.

Byddwn yn trosglwyddo i'r cynllun newydd, gan sicrhau parhad y gefnogaeth i aelwydydd tlawd o ran tanwydd.  Felly rwyf wedi ymestyn y contract Nyth presennol i warchod rhag unrhyw oedi annisgwyl ac i sicrhau na fydd bwlch yn y ddarpariaeth rhwng y rhaglenni newydd a'r rhaglenni presennol.