Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Ym mis Tachwedd 2011, cyhoeddais fy mod am fwrw ymlaen â chreu Un Corff newydd i Gymru drwy dynnu ynghyd swyddogaethau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.

Un o’r camau allweddol ar gyfer symud y broses hon yn ei blaen oedd penodi’r Athro Peter Matthews yn Gadeirydd ar yr Un Corff newydd, a chyhoeddais hyn ar 1 Awst 2012.

Mae’n bleser gennyf rannu’r newyddion y bydd yr Athro Matthews yn cyhoeddi heddiw ei fod wedi penodi Emyr Roberts yn Brif Weithredwr yr Un Corff. Bydd y penodiad yn dechrau ar 1 Tachwedd 2012.  

Emyr yw’r Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Sgiliau presennol yn Llywodraeth Cymru. Mae wedi gweithio mewn nifer o swyddi yn Llywodraeth Cymru a hefyd wedi gweithio i Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr.

Rwy’n croesawu penodiad Emyr i’r swydd bwysig hon ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag Emyr a Peter wrth iddynt fwrw ymlaen â’n cynlluniau cyffrous i sefydlu’r un corff hwn i reoli adnoddau naturiol Cymru. Mae defnyddio, cynnal a gwella adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy mewn ffordd effeithlon ac effeithiol yn hanfodol i bobl ac economi Cymru.