Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 7 Tachwedd 2023, agorodd Ei Fawrhydi y Brenin sesiwn newydd Senedd y DU yn ffurfiol, gan roi braslun o ddeddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth y DU ar gyfer y sesiwn newydd.

Darparwyd rhagor o wybodaeth am gynnwys Araith y Brenin wedyn mewn dogfen a gyhoeddwyd gan Swyddfa'r Prif Weinidog. Cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddatganiad ysgrifenedig ar 8 Tachwedd yn nodi'r Biliau y bwriedir eu hymestyn a'u cymhwyso i Gymru. 

Cyn Araith y Brenin, roedd Llywodraeth y DU wedi rhoi rhestr i Lywodraeth Cymru o bynciau dangosol y mae'n debygol y bydd yn deddfu arnynt yn ystod sesiwn newydd Senedd y DU, ac mae'r ddwy lywodraeth wedi bod yn trafod ar lefel swyddogion nifer o'r meysydd deddfu posibl.

Cafodd nifer o Ddeddfau gan Senedd y DU eu pasio ar faterion datganoledig heb gydsyniad y Senedd yn ystod sesiwn ddiwethaf Senedd y DU, gan ddangos diffyg parch at ewyllys y Senedd a Chonfensiwn Sewel fel y mae'n ymddangos yn adran 107(6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Rwyf wedi pwysleisio wrth Weinidogion Llywodraeth y DU na ellir parhau i weithio yn y ffordd hon, ac mae'r trafodaethau mwy ffrwythlon sydd wedi cael eu cynnal ar y rhaglen ddeddfwriaethol newydd hon hyd yma wedi codi fy nghalon rywfaint.

Ein safbwynt hanfodol o hyd yw y dylai deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig gael ei deddfu gan y Senedd. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dal i gredu y gall fod rhai amgylchiadau pan fydd yn gwneud synnwyr i ddarpariaethau, sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gael eu cynnwys mewn Biliau gan Senedd y DU, gyda chaniatâd penodol y Senedd. Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ysgrifennu'n ddiweddar at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i drafod ein gwaith gyda Llywodraeth y DU i wahardd arferion “dim DSS” a “dim plant” mewn tai a fflatiau preswyl a osodir i'w rhentu yng Nghymru. Mae'r Prif Weinidog hefyd wedi cadarnhau yn y Cyfarfod Llawn ein gwaith ar y cyd â Llywodraeth y DU ar gynigion ar gyfer diwygio lesddaliadau. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU pan fo hynny'n cyd-fynd â'n hegwyddorion.

Mae chwech o'r Biliau a grybwyllwyd yn Araith y Brenin a'r dogfennau ategol wedi eu trosglwyddo o'r sesiwn ddiwethaf. Rydym eisoes wedi gosod memoranda cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â thri o'r rheini — y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2), y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor) a'r Bil Dioddefwyr a Charcharorion. Byddwn yn parhau i drafod â Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod y buddiannau datganoledig ac unrhyw bryderon mewn perthynas â phob un o'r Biliau hynny'n cael sylw.

Edrychaf ymlaen at rannu rhagor o wybodaeth am Filiau perthnasol pan fydd modd gwneud hynny, ac at weithio gyda’r Senedd ar y broses cydsyniad deddfwriaethol drwy gydol sesiwn newydd Senedd y DU.