Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 1 Tachwedd 2023 gosodwyd yr ail Adroddiad Blynyddol ar Dyfodol cyfraith Cymru: Rhaglen ar gyfer 2021 i 2026 gerbron y Senedd, yn unol ag adran 2(7) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Roedd paragraff 70 o’r adroddiad hwnnw yn cynnwys ymrwymiad i ddiwygio’r rhaglen er mwyn dangos:

  1. ymrwymiad i greu Cod y gyfraith ar gyfer cynllunio, ac i ddangos fod Cod ar gyfraith yr amgylchedd hanesyddol wedi ei greu,
  2. gwybodaeth am y prosiect i gryfhau’r ffordd y caiff is-ddeddfwriaeth ei chyhoeddi, ac
  3. ymrwymiad i ymgynghori ar gynigion i wella ffurf a strwythur deddfwriaeth.

Roedd yr Adroddiad Blynyddol hefyd yn cynnwys ymrwymiad i osod rhaglen ddiwygiedig gerbron y Senedd, yn unol ag adran 2(6) o Ddeddf 2019.

Mae’n bleser gennyf roi gwybod i’r Aelodau fod y rhaglen ddiwygiedig wedi ei gosod heddiw. Hoffwn hefyd eich annog i ddarllen Adroddiad Blynyddol 2022-23, sy’n cynnwys adolygiad canol-tymor o’r modd y mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn gweithredu, gan gyflawni ymrwymiad a wnaed yn ystod hynt y Bil drwy’r Senedd.