Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Rhaglen Diogelwch Adeiladau Cymru yn parhau i fod yn rhan annatod o'n hymrwymiad i sicrhau bod trigolion ledled Cymru yn byw mewn cartrefi diogel. 

Mae'r rhaglen wedi gweld cynnydd sylweddol gan ddatblygwyr dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae'n galonogol gweld mai dim ond 17 adeilad sy'n dal i aros am arolygon o'i gymharu â 58 o adeiladau ym mis Rhagfyr 2024. Mae 43 o adeiladau bellach yn y camau cynllunio, gyda phob un ond un yn bwriadu dechrau'r gwaith yn hanner cyntaf y flwyddyn nesaf. Mae 15 adeilad ychwanegol naill ai wedi cwblhau neu wedi dechrau gwaith ers mis Ionawr 2025.

Mae hyn yn cynrychioli gwelliant sylweddol, ond nid wyf yn llaesu dwylo.  Byddaf yn sicrhau ein bod yn canolbwyntio'n uniongyrchol ar adeiladau lle mae cynnydd wedi arafu a lle bo'n bosibl cynnig cymorth gan y llywodraeth i fynd i'r afael ag unrhyw rwystrau.  Braf yw gweld holl lofnodwyr y contract datblygwr yn ymrwymo i sicrhau bod gwaith yn cael ei ddechrau ym mhob datblygiad yng Nghymru erbyn Rhagfyr 2026. Mae hyn yn cynnig amserlen glir a fydd yn helpu i roi sicrwydd i lesddeiliaid.

Rwyf yn disgwyl i anghenion lesddeiliaid a thrigolion gael eu blaenoriaethu wrth gynllunio a chwblhau gwaith adfer. Rwyf wedi cyhoeddi canllawiau yn ddiweddar sy'n pwysleisio'n glir y disgwyliadau hynny ac yn cefnogi'r rhai sydd yn cymryd rhan i sicrhau bod y gwaith yn mynd rhagddo yn gyflym.

Rydym wedi bod yn gweithio'n ddiwyd gyda datblygwyr i sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn yn troi'n gynnydd gweladwy ar lawr gwlad. Rydym yn cynnal cyfarfodydd monitro rheolaidd i olrhain cynnydd yn erbyn cerrig milltir y cytunwyd arnynt, a gallaf gadarnhau bod y mwyafrif o adeiladau y mae datblygwyr yn gyfrifol amdanynt bellach yn symud ymlaen trwy'r camau asesu, cynllunio ac adfer angenrheidiol.

Rwyf yn cydnabod nad yw cyfathrebu â lesddeiliaid a phreswylwyr wedi bodloni disgwyliadau.  Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gwneud cynnydd ystyrlon yn y maes hwn. Mae lansiad y Fforwm Lesddeiliaid a Phreswylwyr wedi cynnig cyfle hanfodol i'r rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol i rannu eu profiadau, codi pryderon, a rhoi adborth, gan sicrhau bod lleisiau lesddeiliaid yn cael eu clywed. Mae ymgysylltiad adeiladol aelodau'r fforwm a'r cipolygon gwerthfawr maen nhw wedi'u cynnig wedi creu argraff arnaf.

Yn ogystal, mae fy swyddogion wedi ymgymryd â rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau ymgysylltu ledled Cymru, gan sicrhau bod lesddeiliaid mewn gwahanol ranbarthau wedi cael y cyfle i gael gafael ar wybodaeth, gofyn cwestiynau, a deall y cymorth sydd ar gael iddynt. Mae'r ymgysylltiad uniongyrchol hwn wedi bod yn amhrisiadwy wrth sicrhau bod lleisiau'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf yn llywio ein gwaith parhaus.

Er fy mod yn croesawu'r ymrwymiadau a wnaed gan ddatblygwyr, rwyf am ei gwneud yn glir mai llofnodi'r contract yw'r cam cyntaf yn unig. Byddaf yn parhau i fonitro cynnydd yr holl ddatblygwyr sydd wedi llofnodi'r contract yn agos. Pan fo datblygwr yn torri ei rwymedigaethau cytundebol, byddai Gweinidogion Cymru yn ystyried yr holl opsiynau gorfodi sydd ar gael iddynt.

Nid yw diogelwch adeiladau yn agored i drafodaeth, ac nid yw'r rhwymedigaethau y mae datblygwyr wedi'u derbyn yn agored i drafodaeth chwaith. Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud, ond mae rhagor o waith i'w wneud. Rwyf yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod y gwaith adfer angenrheidiol yn cael ei wneud ar bob adeilad yn y rhaglen , bod lesddeiliaid yn cael eu cefnogi trwy gydol y broses hon, a bod y rhai sy'n gyfrifol am fethiannau diogelwch adeiladau yn cael eu dwyn i gyfrif.