Neidio i'r prif gynnwy

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr wythnos hon gwelwyd cynnydd gwirioneddol yn ein rhaglen frechu. Rydym wedi cyhoeddi diweddariad i’n strategaeth genedlaethol, sy’n cadarnhau y bydd y dyddiadau targed ar gyfer ein cerrig milltir allweddol yn cael eu symud ymlaen – gan gynnwys cynnig y brechlyn i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd mis Gorffennaf. Rydym wedi amlinellu ein dull gweithredu ar gyfer cam 2 y rhaglen yn dilyn cyhoeddi’r cyngor dros dro ar flaenoriaethu gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ddoe. Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllawiau pwysig ar gymhwysedd, adnabod a chefnogi ar gyfer llawer o ofalwyr di-dâl a phobl ag anableddau dysgu a salwch meddwl difrifol a fydd yn cael eu blaenoriaethu i gael y brechlyn.  

Ac mae rhagor o newyddion gwych am ein rhaglen i gloi’r wythnos. Mae data a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod mwy na 1 miliwn o frechlynnau yn awr wedi’u gweinyddu gan GIG Cymru, gyda chymorth llawer o bartneriaid a gwirfoddolwyr.  

Cofnodwyd bod 916,336 o bobl yn awr wedi cael dos cyntaf y brechlyn yng Nghymru. Mae hynny dros 38% o boblogaeth oedolion Cymru. Ynghyd â’r 89,053 o ail ddosau sydd wedi’u rhoi, mae1,005,389 o frechlynnau bellach wedi’u rhoi ym mreichiau pobl.

Cyflawnwyd hyn mewn 12 wythnos yn unig. Mae hyn yn gyflawniad anhygoel.  Yr wyf yn hynod falch o'r tîm sydd wedi cyflawni'r tirnod hwn a'r gobaith o'r newydd y bydd hyn yn darparu'r wlad.