Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch iawn bod mwy na 75% o oedolion Cymru o dan 50 oed wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn. Golyga hyn ein bod wedi cyflawni’r garreg filltir olaf yn ein Strategaeth Frechu COVID-19 yn gynnar, ac y byddwn nawr yn symud o gam 2 i gam nesaf ein rhaglen. Yn y cam hwn, byddwn yn gwneud yn siŵr fod pawb yn cael eu hail ddos ac yn gweithio ar raglen atgyfnerthu yn yr hydref. Byddwn bob amser yn ymdrechu i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Dyma gyflawniad aruthrol arall yn ein rhaglen ac mae’n gam hanfodol ymlaen yn ein brwydr yn erbyn COVID-19 gan ein helpu i ddychwelyd i wneud mwy o’r pethau rydym yn eu mwynhau.

Er ein bod wedi cyflawni ein targed o 75% byddwn yn dal i weithio i wneud mwy, ac mae angen cymorth pawb arnom i wneud hyn. Mae’r brechlyn yn gam hanfodol i sicrhau ein bod yn dod allan o’r pandemig.

Rydym eisiau ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gael y brechlyn, yn enwedig oedolion ifanc sydd â blaenoriaethau eraill hefyd. Bydd canolfannau brechu mewn sawl ardal yng Nghymru ar agor i bobl alw heibio i dderbyn y brechlyn heb apwyntiad o’r penwythnos hwn.

Y brechlyn yw’r ffordd orau o atal salwch difrifol a lledaeniad COVID-19 ac rydym yn annog pob oedolyn cymwys i fanteisio ar y ddau ddos. Gofynnwch i’ch ffrindiau a’ch teulu a ydynt wedi cael y brechlyn, a’u hannog i ddod draw. Nid yw fyth yn rhy hwyr i drefnu apwyntiad ac os nad ydych wedi derbyn y cynnig o frechlyn, galwch alw heibio i un o’n canolfannau neu edrych yma i weld pwy y dylech gysylltu â nhw.

Rwy’n falch iawn o’n holl gydweithwyr yn GIG Cymru, partneriaid ehangach, a gwirfoddolwyr y mae eu gwaith caled a’u hymrwymiad wedi gwneud hyn yn bosibl.