Nerys Evans AS, Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol
Rwyf wedi penderfynu rhoi rhaglen frechu frys rhag Meningococol Grŵp B (MenB) ar waith yng Nghymru fel mesur rhagofalus cyn y flwyddyn academaidd nesaf. Mae hyn yn dilyn y brigiad digynsail o achosion o MenB yn bennaf ymhlith myfyrwyr Prifysgol Caint ym mis Mawrth 2026, a brigiadau o achosion ar raddfa lai yn Weymouth a Reading yn fwy diweddar. Er bod y risg i’r cyhoedd yn parhau i fod yn isel, roedd y brigiad o achosion yng Nghaint yn anarferol o fawr; y brigiad o achosion o MenB a welwyd yn tyfu gyflymaf erioed yn y DU. Mae’n synhwyrol felly ein bod yn cymryd camau i amddiffyn y bobl ifanc sy’n wynebu’r risg uniongyrchol uchaf eleni, a hynny cyn yr adeg arferol o’r flwyddyn pan adroddir am lefelau uwch o achosion. Yn ôl y dystiolaeth wyddonol, mae’r risg o MenB yn uwch ymhlith y rhai sy’n mynd i’r brifysgol am y tro cyntaf.
Mae’r rhaglen hefyd yn cael ei rhoi ar waith yng ngwledydd eraill y DU, a hynny rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr eleni.
Mae clefyd meningococol yn brin, ond mae’n haint bacterol difrifol. MenB yw’r achos mwyaf cyffredin o glefyd meningococol ymledol yn y DU. Mae bacteria MenB yn aml yn bresennol yn y gwddf heb achosi unrhyw symptomau, ond os ydynt yn mynd i mewn i lif y gwaed neu i’r hylif o amgylch yr ymennydd a madruddyn y cefn, gallant achosi llid yr ymennydd (sef llid yn leinin yr ymennydd) a sepsis. Gall llid yr ymennydd a sepsis beryglu bywyd yn gyflym iawn - weithiau o fewn oriau.
Nid yw clefyd meningococol mor heintus â salwch fel COVID-19 neu’r frech goch, ond mae clystyrau o achosion yn digwydd fel rheol mewn amgylcheddau lle mae pobl ifanc yn byw yn agos iawn i’w gilydd ac yn cymysgu’n agos â’i gilydd, er enghraifft mewn neuaddau preswyl.
Ar hyn o bryd, cynigir y brechlyn MenB, Bexsero®, yn rhan o’r rhaglen imiwneiddio arferol i blant, ac mae’n effeithiol iawn o ran darparu amddiffyniad uniongyrchol rhag clefyd meningococol ymledol. Er nad yw’n atal y clefyd rhag cael ei drosglwyddo ymhlith y boblogaeth ehangach, mae’r brechlyn yn amddiffyn unigolion sydd wedi’u brechu rhag haint ac yn helpu i leihau difrifoldeb y salwch.
Gan fod angen dau ddos o’r brechlyn Bexsero® (4CMenB) i gael amddiffyniad, mae’n bwysig dechrau cynnig brechiad cyn gynted ag y bo modd er mwyn sicrhau bod y rhai y nodwyd eu bod yn wynebu’r risg uchaf yn cael eu brechu’n llawn cyn dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf, a phan fydd MenB ar ei anterth yn yr hydref.
Mae swyddogion a GIG Cymru yn cydweithio er mwyn cynnig y brechiad MenB am gyfnod cyfyngedig i’r rhai sy’n wynebu’r risg uchaf, a hynny o fis Gorffennaf 2026 ymlaen. Bydd rhifyn o Gylchlythyr Iechyd Cymru yn cael ei lunio i rannu rhagor o wybodaeth am gymhwystra a sut bydd y rhaglen hon yn cael ei rhoi ar waith. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid er mwyn codi ymwybyddiaeth ac annog pawb sy’n gymwys i fanteisio ar eu cynnig i gael brechiad.
