Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon, a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Rhaglen Cyfalaf Trawsnewid Diwylliannol yn anelu at gefnogi llyfrgelloedd cyhoeddus, amgueddfeydd lleol a gwasanaethau archif i drawsnewid eu gwasanaethau, moderneiddio eu cyfleusterau ac i wella’r hyn a gynigir ganddynt i bobl a chymunedau.  Mae’r rhaglen yn fuddsoddiad pellach yn ein sectorau diwylliannol lleol.

Cafodd y rhaglen ei lansio yn 2010 ac roedd ond ar gael i lyfrgelloedd i ddechrau.  Cafodd y rhaglen ei hymestyn i gynnwys amgueddfeydd ac archifau yn 2017 – ers hynny mae dros £9 miliwn wedi’i ddarparu, gan helpu i drawsnewid y gwasanaethau hanfodol hyn. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar wella mynediad, gweithio mewn partneriaeth, datgarboneiddio, a datblygu gwasanaethau mwy cynaliadwy.

Bydd cylch 2023-24 yn cefnogi 8 prosiect - pedair amgueddfa a phedair llyfrgell - gyda dau ddyfarniad ychwanegol i’w gwneud, yn aros am eglurhad a gwybodaeth bellach.  Mae gwerth rhaglen eleni ychydig dros £1.7 miliwn.

O drawsnewid safleoedd i gael eu defnyddio’n well mewn cymunedau, gan alluogi mwy o fynediad a chyfranogiad a chefnogi iechyd a lles defnyddwyr, i gadw casgliadau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, mae’r rhaglen yn gyfle hanfodol i’r sefydliadau hyn a’u cymunedau. Mae pob un o’r prosiectau yn cyd-fynd ac yn cefnogi’r nodau llesiant a ymgorfforir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ein hymrwymiadau yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a’n hymrwymiadau yn Cymru Net Sero.

Mae Llyfrgell Arberth yn un o’r prosiectau i elwa – bydd y grant yn cyfrannu at raglen adfywio sylweddol i drawsnewid Hen Ysgol Arberth, adeilad sydd wedi bod yn wag ers dros ddegawd, yn gyfleuster amlddefnydd. Bydd y llyfrgell 58% yn fwy na’r cyfleuster presennol, mewn lleoliad mwy gweladwy, canolog, a hygyrch yng nghanol y dref.

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid i Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, ym Merthyr Tudful.  Bydd hyn yn ariannu gofod storio pwrpasol oddi ar y safle, gydag offer benodol i adleoli storfa gelf yr amgueddfa a’i gwneud yn haws i’r cyhoedd weld y casgliad.

Mae gwybodaeth am yr holl brosiectau sy’n cael eu hariannu drwy’r cyfnod grant diweddar ar gael yma: Rhaglen Grant Cyfalaf Trawsnewid: grantiau a ddyfarnwyd yn 2022 i 2023 a 2024 i 2025