Neidio i'r prif gynnwys

Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd, Cwnsler Cyffredinol Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n gosod gerbron y Senedd ail Raglen Llywodraeth Cymru i Wella Hygyrchedd Cyfraith Cymru, a luniwyd yn unol ag adran 2 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.

Mae'r mis hwn yn nodi pymtheng mlynedd ers i Lywodraeth Cymru nodi ei huchelgais i ddatblygu llyfr statud hygyrch a dwyieithog ar gyfer Cymru. Ym mis Hydref 2011, siaradodd y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, yng nghynhadledd Cymru'r Gyfraith am y corff cynyddol o gyfraith sy'n benodol i Gymru a'r angen i wella ei hygyrchedd, gan gynnwys drwy gydgrynhoi. Yn yr un mis, gwnaeth fy rhagflaenydd fel Cwnsler Cyffredinol, Theodore Huckle CB, ddatganiad i'r Senedd ar Hygyrchedd i Gyfreithiau Cymru a Datblygu Llyfr Statud i Gymru. 

Mae llawer wedi newid yn y pymtheng mlynedd ers i'r datganiadau hynny gael eu gwneud. Mae'r Senedd wedi dod yn ddeddfwrfa gyfansoddiadol gyda phwerau deddfu sylfaenol, ac mae corff sylweddol o ddeddfwriaeth sy'n fwyfwy penodol i Gymru wedi datblygu. Mae'r ymrwymiad a wnaed yn 2011 hefyd wedi'i osod ar sail statudol drwy Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol lunio rhaglen yn ystod pob tymor y Senedd i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Roedd y rhaglen gyntaf o'r fath, Dyfodol Cyfraith Cymru, yn ymdrin â thymor y Senedd a ddaeth i ben ym mis Mai 2026. 

Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, fel y'i diwygiwyd y llynedd, yn ddatblygiad arwyddocaol. Yn ogystal â chrynhoi ymrwymiad hirdymor y Llywodraeth i gydgrynhoi a chodeiddio deddfwriaeth Cymru o fewn meysydd datganoledig, mae'n nodi rheolau ar gyfer dehongli deddfwriaeth Cymru a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud is-ddeddfwriaeth. Mae hyn hefyd yn gosod dyletswydd ar Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru i gyhoeddi deddfwriaeth Cymru, ac ar Lyfrgell Genedlaethol Cymru i gynnal archif o'n deddfwriaeth. 

Yn rhinwedd fy swydd fel Cwnsler Cyffredinol, rwy'n ystyried y gwaith hwn yn angenrheidrwydd ymarferol ac yn rhan bwysig o ddatblygiad parhaus ein cenedl. Mae'r gallu i wneud ein cyfraith ein hunain yn golygu ein bod ni'n gyfrifol am y gyfraith honno. Rhaid inni sicrhau bod y bobl y mae eu hawliau a'u cyfrifoldebau yn cael eu pennu gan y gyfraith yn gallu ei chyrchu, ei deall a'i defnyddio.

Rwy'n falch iawn ein bod yn datblygu corff penodol o gyfraith godeiddiedig mewn dwy iaith, gan dynnu ar ein traddodiad cyfreithiol ein hunain wrth greu llyfr statud sy'n gallu diwallu anghenion y Gymru fodern. Y nod yw nid yn unig ychwanegu deddfwriaeth newydd at y llyfr statud, ond sicrhau bod cyfraith Cymru yn dod yn gorff o gyfraith sydd fwyfwy cydlynol, hygyrch ac adnabyddadwy ynddo'i hun.

Mae'r rhaglen yr wyf yn ei gosod heddiw yn adeiladu ar y cynnydd sylweddol a wnaed hyd yn hyn, yn fwyaf arbennig drwy ddatblygu Codau cyfraith Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol, cynllunio a thwristiaeth, yn ogystal â chreu corff penodol o gyfraith i Gymru ar ofal cymdeithasol a threthiant. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys prosiectau i gydgrynhoi a chodeiddio'r gyfraith ymhellach. Ymhlith y rhain mae cydgrynhoi deddfwriaeth rhandiroedd, codeiddio deddfwriaeth rheoli bywyd gwyllt a choedwigaeth, sefydlu cod cyfraith tribiwnlysoedd a dechrau ar y gwaith o gydgrynhoi a chodeiddio deddfwriaeth amaethyddol. Byddwn hefyd yn ymgorffori is-ddeddfwriaeth yn y Cod Cynllunio presennol ac yn parhau i nodi meysydd o'r gyfraith lle byddai cydgrynhoi pellach yn dod â buddion gwirioneddol. 

Ond mae hygyrchedd yn ymwneud â mwy na chydgrynhoi a chodeiddio. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys gwaith i wella'r ffordd y cyflwynir cyfraith Cymru a'r wybodaeth sydd ar gael amdani, gwneud deunydd esboniadol yn haws ei gyrchu, cadw deddfwriaeth wedi'i diwygio yn gyfredol, nodi a chywiro gwallau, datrys amwyseddau a diddymu darpariaethau nad ydynt bellach o ddefnydd nac o fudd ymarferol. Byddwn hefyd yn ymchwilio ymhellach i sut y gellir defnyddio technoleg, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial, mewn modd cyfrifol i helpu i lunio, cynnal a deall deddfwriaeth. 

Yn ganolog i'r rhaglen mae ein hymrwymiad i'r Gymraeg fel iaith gyfraith. Byddwn yn parhau â'n gwaith i sefydlu terminoleg gyfreithiol Gymraeg awdurdodol, cyhoeddi geirfaoedd dwyieithog ar gyfer pob cod newydd o gyfraith Cymru, gwneud mwy o ddefnydd o dechnoleg i wneud cyfraith Gymraeg yn haws ei chyrchu, ei datblygu a'i deall, a chefnogi'r defnydd ymarferol o'r Gymraeg yn nhribiwnlysoedd Cymru. 

Mae'r prosiectau unigol hyn yn bwysig, ond gyda'i gilydd maent yn cynrychioli rhywbeth mwy. Mae deddfwrfa aeddfed angen seilwaith cyfreithiol i'w chefnogi. Mae gwella hygyrchedd cyfraith Cymru felly yn cyfrannu at ddatblygiad ehangach Cymru fel cenedl drwy gryfhau gweithrediad ymarferol datganoli, cefnogi'r Gymraeg fel iaith gyfraith fodern a helpu i sefydlu corff cydlynol o gyfraith y gallwn ei gydnabod yn hyderus fel ein cyfraith ein hunain.

Rydym yn gwybod ers blynyddoedd y bydd angen mwy nag un genhedlaeth i gwblhau'r gwaith hwn. Er hynny, bymtheng mlynedd yn ddiweddarach, rydym wedi dod yn bell ar y daith tuag at wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Mae'r rhaglen hon yn nodi cam nesaf y daith honno. Mae ein huchelgais yn parhau i fod yn syml: dylai'r gyfraith a wneir ar gyfer Cymru fod yn gyfraith y gall pobl Cymru ei hadnabod, ei deall a'i defnyddio'n hawdd, yn y naill neu'r llall o'n hieithoedd cenedlaethol.