Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o roi gwybod ein bod wedi cyhoeddi Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM) ar gyfer 2024-2025. O ystyried y pwysau enfawr ar adnoddau'r sector cyhoeddus ar hyn o bryd ynghyd â chwyddiant digynsail yng nghostau adeiladu, mae hon wedi bod yn un o raglenni mwyaf heriol y blynyddoedd diwethaf. Er hynny, rydyn ni’n dal i fod wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein seilwaith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Y llynedd, gwnaethom sicrhau bod dros £75m ar gael i Awdurdodau Rheoli Risg. Byddwn yn gwneud yr un peth eleni. Rydym yn cynnal y lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad wrth inni barhau i gyflawni yn erbyn ymrwymiad ein Rhaglen Lywodraethu i leihau perygl llifogydd i dros 45,000 o eiddo.

Byddwn yn buddsoddi £34m o gyllid cyfalaf mewn cynlluniau newydd ledled Cymru. Mae dadansoddiad llawn a map o'r buddsoddiad hwn wedi'u cyhoeddi ar ein gwefan. Rydym hefyd yn cynnal y lefelau uchaf erioed o gyllid refeniw i'n Hawdurdodau Rheoli Risg a Chanolfan Monitro Arfordirol Cymru i ymgymryd â gweithgarwch perygl llifogydd drwy gydol y flwyddyn. Mae Awdurdodau Rheoli Risg yn defnyddio eu cyllid refeniw i gynnal asedau, codi ymwybyddiaeth, rhybuddio a hysbysu, cyflogi staff ac ymchwilio i lifogydd. Mae Canolfan Monitro Arfordirol Cymru yn darparu gwell data a gwybodaeth i'n Hawdurdodau Rheoli Risg i fod yn sail gadarn i benderfyniadau ar sail tystiolaeth ar gyfer Awdurdodau Lleol Morol, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a rhanddeiliaid allanol.

Mae'r cyfnod hir o dywydd gwlyb yr ydym wedi'i brofi ledled Cymru y gaeaf hwn wedi ein hatgoffa eto pam mae angen y buddsoddiad hwn. Mae hi’n argyfwng hinsawdd arnon ni ac mae’r atmosffer yn cynhesu ac yn cadw mwy o ddŵr. Er ymdrechion rhyngwladol, mae allyriadau nwyon tŷ gwydr y byd yn dal ar gynnydd. Mae'r gaeaf hwn, felly, ymhlith y 10 cynhesaf a'r 10 gwlypaf erioed ar gofnod ar gyfer y DU. Ar hyn o bryd, mae Cymru'n profi ei wythfed gaeaf gwlypaf, ac mae newydd gofnodi ei Chwefror cynhesaf erioed. Mae Rhagolygon diweddaraf ar gyfer Hinsawdd y DU yn dangos y bydd lefelau’r môr yn codi dros fetr yn y 100 mlynedd nesaf, a bydd mwy law a stormydd yn cynyddu’r perygl o lifogydd yn fawr. 

Ym mis Tachwedd, daeth Storm Babet â llifogydd eang i ogledd Cymru gan effeithio ar dros 100 eiddo yn Sir y Fflint. Ar ôl cyfnod y Nadolig, effeithiodd llifogydd yn sgil Stormydd Gerrit a Henk ar bron i 40 eiddo yn ne Cymru. Ym mis Hydref, effeithiodd llifogydd ar 26 eiddo yn Sir Gaerfyrddin pan na lwyddodd y seilwaith yng Nglan-y-fferi na Llansteffan i wrthsefyll y glaw trwm parhaus. Wrth i’r hinsawdd droi’n wlypach, bydd ein hafonydd a’n rhwydwaith draeniau o dan bwysau cynyddol. Ond rhaid wynebu’r heriau hyn i gadw’n cymunedau’n saff. Dyna’r rheswm pam ein bod wedi gosod targedau uchelgeisiol i ni’n hunain yn ein Strategaeth Genedlaethol a’r Rhaglen Lywodraethu. 

A dyna pam fy mod mor ddiolchgar i’n Hawdurdodau Rheoli Risg a fydd yn ein helpu i daro’r targedau hyn. Mae CNC a’r awdurdodau lleol yn gweithio’n ddiflino i ddatblygu cynlluniau newydd, i ddarparu rhybuddion, i ymateb i ddigwyddiadau ac i gynnal a chadw nifer aruthrol o asedau ledled Cymru. Mae llawer iawn o'n seilwaith rheoli perygl llifogydd yn anweladwy. Gallai fod yn gwlfert tanddaearol, arglawdd glaswellt bach mewn parc, neu bant wrth ymyl ffordd. Mae angen monitro a chynnal a chadw pob un ohonynt. Mae staff ein Hawdurdodau Rheoli Risg yn cadw miloedd o asedau i weithio, drwy gydol y flwyddyn. Maen nhw’n gweithio gyda’u cymunedau i’w gwneud yn fwy cydnerth ac i’w helpu i addasu. Rwy'n ddiolchgar am eu hymdrechion.

Er mwyn helpu ein hawdurdodau lleol i reoli mân lifogydd lleol, byddwn yn darparu £4.2m iddynt i gyflawni 74 o gynlluniau drwy ein grant gwaith graddfa fach. Ers ei gyflwyno 8 mlynedd yn ôl, mae awdurdodau lleol wedi croesawu'r grant hwn yn frwd. Mae'r broses ymgeisio symlach yn rhoi'r cyfle iddynt wneud gwelliannau cyflym a chosteffeithiol i'r seilwaith presennol. Oherwydd eu maint, mae cynlluniau graddfa fach yn aml yn cael eu cyflawni gan gwmnïau adeiladu lleol, gan ddarparu budd i'r economi leol. 

Gan droi at ein cynlluniau arfaethedig mwy o faint, mae'r rhaglen yn ymrwymo i barhau â'r gwaith adeiladu yn Stephenson Street, Casnewydd, un o'r cynlluniau lliniaru llifogydd mwyaf a luniwyd erioed gan CNC. Ar ôl ei gwblhau, bydd yn lleihau'r risg i 800 o eiddo. Rydym hefyd yn darparu £800mil i CNC i wneud gwaith cynnal a chadw cyfalaf yn Sandycroft, Sir y Fflint, gan leihau'r risg i fwy na 200 o eiddo mewn cymuned a brofodd lifogydd sylweddol ym mis Hydref 2023. Eleni hefyd bydd gwaith adeiladu'n dechrau yn Llanfairfechan, Conwy, wrth i'r awdurdod lleol fwriadu buddsoddi £1.4m yn yr amddiffynfeydd môr er mwyn lleihau'r risg i 43 o eiddo. Rydym hefyd wedi sicrhau bod £1.1m ar gael i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i roi cynllun ar waith yn Stryd Edwards, Ystrad Mynach, a £550mil i Gyngor Sir Penfro ar gyfer ei gynllun Lower Priory and Havens Head. Bydd hyn o fudd i ddwy gymuned y mae llifogydd wedi effeithio arnynt o'r blaen.

Rydym hefyd yn agosáu at ddiwedd ein Rhaglen Rheoli Perygl Arfordirol (CRMP) helaeth. Gwelodd y rhaglen fuddsoddi £288m dros 5 mlynedd trwy fanteisio ar bwerau benthyg y sector cyhoeddus. Bydd y 3 chynllun CRMP terfynol yn dechrau ar y gwaith adeiladu cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Byddwn yn buddsoddi £16.6m ym Mae Cinmel, £4m yng Ngerddi Traphont Abermaw a £4m yn Llandudno. Ar ôl ei chwblhau, bydd CRMP wedi ariannu 15 cynllun ledled y wlad, gan roi budd i dros 15,000 o eiddo. Roedd hwn yn gyfle unigryw i'n hawdurdodau morol fanteisio ar filiynau o bunnau o gyllid a gwella cydnerthedd eu cymunedau arfordirol, gan gadw pobl yn ddiogel am genedlaethau i ddod. 

Mae ein rhaglen FCERM yn cydnabod hefyd y rôl hanfodol y bydd atebion sy'n seiliedig ar natur yn ei chwarae i leihau llifogydd yn y dyfodol. Bydd y Rhaglen Sbarduno ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol (NFM), a gafodd ei lansio ym mis Hydref 2023, yn arwain at fuddsoddi £4.6m arall mewn atebion seiliedig ar natur ledled y wlad. Mae'r rhaglen yn dangos ein hymrwymiad i weithio gyda ffermwyr, perchnogion tir a mudiadau trydydd sector ledled Cymru. Bydd yn golygu gweithio gyda phrosesau naturiol i wella ein hamgylchedd naturiol, cynyddu nifer y cynefinoedd gwlyptir a choetir, a lleihau'r perygl o lifogydd i hyd at 2,000 eiddo. Bydd yn ariannu 23 o brosiectau yn ardaloedd 8 awdurdod gwahanol. Mae ein Strategaeth Genedlaethol yn datgan bod Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn rhan hollbwysig o’n hymdrechion i leihau’r perygl o lifogydd yng Nghymru. Bydd Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn gwella bioamrywiaeth, yn dal carbon ac yn lleihau llygredd. Yn ogystal â gwella ein dealltwriaeth o ddulliau naturiol o reoli llifogydd, bydd y rhaglen sbarduno’n cynyddu nifer y cynlluniau NFM ledled Cymru ac yn ein rhoi ar y trywydd cywir i wireddu ymrwymiad ein Rhaglen Lywodraethu erbyn 2026. Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud fel rhan o’r cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru. 

Gyda chyllidebau anodd a newid hinsawdd ar gynnydd, mae’r rhaglen hon yn dangos ein hymrwymiad i fuddsoddi i reoli perygl llifogydd, gan helpu’n cymunedau i addasu ac i gadw’n saff at y dyfodol.