Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM) ar gyfer 2026-2025. Yn ystod tymor y Senedd hon mae Llywodraeth Cymru wedi darparu'r lefel uchaf erioed o fuddsoddiad mewn llifogydd yng Nghymru, gyda mwy na £377 miliwn wedi'i ymrwymo i reoli perygl llifogydd. Mae hwn yn gyflawniad sylweddol ac yn dangos ffocws difrifol a pharhaus Llywodraeth Cymru ar lifogydd ac erydu arfordirol.
Y llynedd, fe wnes i sicrhau bod mwy na £77 miliwn ar gael i Awdurdodau Rheoli Risg, y buddsoddiad blynyddol uchaf hyd yma. Ar gyfer 2026–27, rydym yn mynd hyd yn oed ymhellach, gyda thros £85 miliwn yn cael ei ddyrannu i barhau i adeiladu ar y cynnydd mwyaf erioed. Mae hyn yn cynnwys bron i £43 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer cynlluniau newydd ledled Cymru, gan sicrhau momentwm parhaus drwy gyflawni gwaith hanfodol mewn cymunedau. Mae dadansoddiad llawn a map o'r buddsoddiad hwn wedi ei gyhoeddi ar ein gwefan.
Yn ogystal, bydd cyllid refeniw yn parhau i gefnogi Awdurdodau Rheoli Risg a Chanolfan Monitro Arfordirol Cymru o ran eu cyfrifoldebau rheoli llifogydd a risg arfordirol drwy gydol y flwyddyn. Mae'r buddsoddiad parhaus hwn yn adlewyrchu ymrwymiad cryf Llywodraeth Cymru i'r gwaith o ddydd i ddydd sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth mewn cymunedau ledled Cymru. Mae'n galluogi Awdurdodau Rheoli Risg i gynnal asedau pwysig, codi ymwybyddiaeth, cyhoeddi rhybuddion, cyflogi staff arbenigol a chynnal ymchwiliadau allweddol sy'n helpu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gymunedau a sicrhau eu bod yn barod. Bydd Canolfan Monitro Arfordirol Cymru yn parhau i wella'r gwaith hwn drwy ddarparu data a thystiolaeth o ansawdd uchel i Awdurdodau Lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid eraill, gan gryfhau'r broses o wneud penderfyniadau a chefnogi'r ymdrech ar y cyd i reoli peryglon llifogydd ac erydu arfordirol.
Mae'r amodau gwlyb maith y mae Cymru wedi'u hwynebu'r gaeaf hwn yn tanlinellu pa mor hanfodol yw buddsoddiad parhaus. Unwaith eto, rydym yn profi glawiad parhaus a dwys, sy'n cyd-fynd ag amcanestyniadau sy'n dangos lefelau'r môr yn codi a phatrymau stormydd cynyddol ddifrifol yn y degawdau i ddod. Mae'r hinsawdd newidiol hon eisoes yn rhoi mwy o bwysau ar ein hafonydd, ein harfordiroedd a'n systemau draenio, sy'n realiti y mae digwyddiadau dros y gaeafau diweddar wedi tynnu sylw ato.
Daeth y gaeaf hwn â llifogydd helaeth ledled Cymru, gydag effeithiau difrifol mewn ardaloedd fel Trefynwy, Ynysgynwraidd a Sir Gaerfyrddin. Ym mis Rhagfyr 2025, effeithiodd Storm Claudia ar gymunedau yng Nghaerffili, Sir Ddinbych, Powys, Torfaen, Rhondda Cynon Taf a Chasnewydd, gan effeithio ar bron i 400 o gartrefi a busnesau. Mewn ymateb, dyfarnwyd bron i £2 miliwn o gyllid cyfalaf brys ar gyfer llifogydd, gan gynnig cymorth uniongyrchol i gymunedau sy'n delio â'r trallod a'r tarfu a achoswyd gan lifogydd y gaeaf hwn.
Mae'r digwyddiadau hyn wedi tanlinellu'r heriau cynyddol sy'n ein hwynebu wrth i batrymau tywydd ddod yn fwy eithafol. Mae mynd i'r afael â'r her hon yn gofyn am barhau i gyflawni'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a'r uchelgeisiau a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu.
Mae Awdurdodau Rheoli Risg yn chwarae rhan ganolog wrth gyflawni'r canlyniadau hyn. Mae CNC ac Awdurdodau Lleol yn parhau i ddylunio a darparu cynlluniau newydd, cyhoeddi rhybuddion, ymateb i ddigwyddiadau, a chynnal rhwydweithiau helaeth o asedau ledled Cymru. Mae llawer o'r seilwaith hwn yn anymwthiol, fel cwlfertau, argloddiau, pantiau, a nodweddion eraill sy'n amddiffyn cymunedau yn dawel ond yn effeithiol. Mae gwaith monitro a chynnal a chadw parhaus yn hanfodol, ac mae cyfraniad unigolion sy'n gweithio yn y cymunedau hyn yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi.
Er mwyn helpu Awdurdodau Lleol i reoli digwyddiadau lleol, bydd dros £7.4 miliwn yn cael ei ddarparu drwy'r Grant Gwaith ar Raddfa Fach i gyflawni 106 o gynlluniau y flwyddyn nesaf. Mae'r lefel gref o geisiadau a ddaeth i law, a'r nifer uchel a aseswyd fel rhai cymwys, yn adlewyrchu'r ceisiadau a dargedwyd yn dda yn gyson gan Awdurdodau Lleol a'r cysylltiadau gwaith agos sydd wedi'u meithrin gyda swyddogion llifogydd dros nifer o flynyddoedd. Bellach yn ei unfed flwyddyn ar ddeg, mae'r grant yn parhau i fod yn fecanwaith dibynadwy ac effeithiol ar gyfer cyflawni gwelliannau cyflym, ymarferol a chosteffeithiol i'r seilwaith presennol, gan roi'r hyblygrwydd i Awdurdodau Lleol ymateb yn gyflym i faterion sy'n dod i'r amlwg.
Mae'r prosiectau llai hyn yn aml yn cael eu cyflawni gan gwmnïau adeiladu lleol, gan gefnogi swyddi, meithrin arbenigedd lleol a chyfrannu at yr economi leol. Gyda'i gilydd, maent yn dangos sut mae buddsoddiad wedi'i dargedu ar lefel gymunedol yn parhau i ddarparu manteision ystyrlon ledled Cymru.
Gan droi at y cynlluniau mwy a gynlluniwyd, bydd Rhaglen 2026–27 yn hybu datblygiadau mawr yn Aberteifi, Dwyran, Porthmadog ac Ynysgynwraidd, gan osod y sylfaen ar gyfer adeiladu yn y dyfodol a fydd yn dod â manteision hirdymor i'r cymunedau hyn. Yn ogystal, bydd gweithgareddau adeiladu newydd yn dechrau yn Edward Street, Ystrad Mynach (Caerffili), Maesyffynon Lane (Rhondda Cynon Taf), Ffordd Tan yr Ysgol, Llanrwst (Conwy), Blackpill (Abertawe), Bontnewydd (Gwynedd), Llandysul / Pont-tyweli (Sir Gaerfyrddin).
Bydd y cynlluniau hyn o fudd i nifer o gymunedau sydd wedi profi llifogydd o'r blaen.
Mae'r Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol (CRMP) yn dechrau ar ei cham olaf, sy'n cynrychioli £214m o fuddsoddiad wedi'i alluogi drwy bwerau benthyca'r sector cyhoeddus. Mae'r pedwar cynllun sy'n weddill yng Nghonwy, Gwynedd a Chaerdydd yn parhau i symud yn raddol tuag at gael eu cwblhau. Mae Cyngor Caerdydd a Knights Brown yn adeiladu'r prosiect amddiffyn arfordirol gwerth £35.197 miliwn yn Ffordd Rover, fel rhan o fenter CRMP Llywodraeth Cymru.
Mae'r gwaith adeiladu yn cynnwys wal gynnal y graig ar raddfa fawr, argloddiau pridd, seilbyst llenni, blociau Dysol ac amddiffyniad rhag erydiad ar hyd yr arfordir.
Mae'r prosiect yn lleihau llifogydd arfordirol i 2,326 o eiddo preswyl a 204 eiddo amhreswyl dros y 100 mlynedd nesaf.
Ar ôl ei gwblhau, bydd CRMP wedi cyflawni 15 cynllun ledled Cymru, gan wella amddiffyniad ar gyfer bron i 14,000 o eiddo. Mae'r rhaglen wedi darparu cyfle unigryw i awdurdodau morwrol weithredu gwelliannau mawr i wydnwch arfordirol a fydd yn helpu i ddiogelu cymunedau am genedlaethau.
Rydym yn sicrhau bod £5.26 miliwn ar gael ar gyfer cynlluniau Rheoli Llifogydd yn Naturiol (NFM), gan gefnogi 35 o brosiectau a ddarperir gan 10 Awdurdod Rheoli Risg. Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys ystod eang o ymyriadau megis gosod argaeau sy'n gollwng, plannu coed, a gwella cysylltedd cynefinoedd. Mae'r rhaglen NFM wedi'i chynllunio i leihau'r perygl o lifogydd ar gyfer bron i 3,334 o eiddo, gan hefyd ddarparu manteision amgylcheddol a chymdeithasol ehangach.
Mae'r buddsoddiad hwn yn adeiladu ar ein Cynllun Peilot NFM blaenorol a'r Rhaglen Sbarduno NFM ddilynol, a gyflawnodd dros 24 o gynlluniau ledled Cymru, gan fod o fudd i dros 1,600 o gartrefi a busnesau, a darparu manteision amgylcheddol ehangach. Mae prosiectau cynharach wedi dangos tystiolaeth glir o lwyddiant. Er enghraifft, yn nalgylch afon Wysg, mae pyllau newydd, pyllau dŵr tymhorol ac argaeau sy'n gollwng eisoes yn darparu dros 3,300 metr ciwbig o storfa ddŵr ychwanegol, gyda gwaith monitro cynnar yn dangos bod y mesurau'n gweithio fel y bwriadwyd. Mae'r cynlluniau hefyd wedi gwella iechyd pridd, creu cynefinoedd coetir, a chryfhau gwydnwch cymunedol. Maent yn dangos sut y gall atebion sy'n seiliedig ar natur leihau'r perygl o lifogydd, gan ddarparu manteision trawslywodraethol ar gyfer bioamrywiaeth, llesiant ac addasu i'r hinsawdd.
Rwy'n hynod falch bod y llywodraeth hon wedi darparu'r buddsoddiad mwyaf erioed mewn rheoli perygl llifogydd, gan gefnogi cymunedau ledled Cymru wrth iddynt addasu i effeithiau hinsawdd mwy aml a dwys.
