Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr ysgyfaint yng Nghymru, wedi'i hanelu at y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf o ddioddef y clefyd.
Bydd gwaith yn dechrau ar unwaith i ddatblygu a chyflwyno'r rhaglen. Dyma'r bedwaredd raglen sgrinio ar gyfer canser sy'n seiliedig ar boblogaeth yng Nghymru. Daw fy mhenderfyniad yn dilyn argymhelliad gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU a'r cynlluniau peilot llwyddiannus yng ngogledd Cwm Rhondda ac mewn ardaloedd eraill yn y DU.
Argymhellodd y Pwyllgor Sgrinio y dylid gweithredu rhaglen wedi'i thargedu ar gyfer sgrinio canser yr ysgyfaint, ochr yn ochr â gwasanaeth rhoi'r gorau i ysmygu integredig, ar gyfer pobl rhwng 55 a 74 oed sy'n wynebu risg uchel o ddioddef canser yr ysgyfaint. Mae'r bobl hyn naill ai'n ysmygu ar hyn o bryd, neu wedi gwneud hynny yn y gorffennol.
Canser yr ysgyfaint yw'r trydydd math mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru, ond dyma'r math o ganser sy’n lladd y rhan fwyaf o bobl o bell ffordd. Yn anffodus, mae'r mwyafrif o achosion o ganser yr ysgyfaint yng Nghymru yn cael eu canfod yn hwyr pan fydd y canser wedi lledaenu y tu hwnt i'r ysgyfaint ac na ellir ei wella yn aml. Mae rhaglen sgrinio genedlaethol yn allweddol i ganfod canser yr ysgyfaint yn gynharach ac i wella canlyniadau a chyfraddau goroesi pobl.
Rwyf wedi gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru fynd ati ar unwaith i gynllunio'r gwaith gweithredu. Bydd hyn yn sicrhau bod y seilwaith, y gweithlu a'r systemau cymorth angenrheidiol ar waith i ddarparu rhaglen sgrinio yn ddiogel ac yn effeithiol ledled Cymru. Bydd y rhaglen sgrinio yn cynnwys sgan tomograffeg gyfrifiadurol dos isel (LDCT) o'r frest gan ddefnyddio unedau sganio symudol i sicrhau mynediad teg i gymunedau ym mhob rhan o Gymru.
Byddwn yn mabwysiadu dull gweithredu fesul cam yn seiliedig ar oedran, gan ddechrau gyda'r ystod oedran hŷn cyn gostwng yr oedran yn raddol dros amser. Dyma'r un dull a ddefnyddiwyd gennym i ehangu'r rhaglen sgrinio ar gyfer canser y coluddyn.
Bydd y gwaith gweithredu yn digwydd mewn tri cham er mwyn caniatáu i'r GIG yng Nghymru gynyddu'r capasiti i adrodd ar sganiau a rhoi'r canlyniadau dilynol yn brydlon. Rwyf wedi cytuno i ddarparu £2.3m o gyllid yn 2025-26 i ehangu tîm presennol y prosiect a dechrau'r rhaglen. Disgwylir i'r rhaglen gostio tua £13m y flwyddyn unwaith y bydd wedi’i rhoi ar waith yn llawn.
Rwy'n rhag-weld y bydd y bobl gyntaf yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn y rhaglen yn 2027. Bydd gan y rhaglen brotocolau safonol ar waith ar gyfer delio â chanfyddiadau digwyddol o gyflyrau eraill, fel clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD).
Yn bwysig, bydd y rhaglen hefyd yn gyfle gwerthfawr i gefnogi pobl i roi'r gorau i ysmygu. Ysmygu yw prif achos canser yr ysgyfaint ac mae cynnwys mynediad at wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu o fewn y rhaglen sgrinio, ac ochr yn ochr â hi, yn rhan allweddol o'n dull gweithredu.
Bydd y cyllid ar gyfer y rhaglen yn galluogi'r hyb Helpa Fi i Stopio i ddechrau cynnig cymorth wedi'i dargedu ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu i ysmygwyr cymwys. Bydd hyn yn digwydd cyn dechrau'r rhaglen sgrinio ac yn helpu Iechyd Cyhoeddus Cymru i nodi'r dull gorau o ehangu'r gwasanaeth ochr yn ochr â'r rhaglen sgrinio. Bydd hyn yn sicrhau bod y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf yn cael cynnig cymorth effeithiol i roi'r gorau iddi, gan leihau eu risg o ganser yr ysgyfaint yn y dyfodol a gwella eu hiechyd a'u llesiant cyffredinol.
Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arwain ar y gwaith o gynllunio a chyflwyno'r rhaglen yn fanwl, gan weithio mewn cydweithrediad agos â Llywodraeth Cymru, y GIG a rhanddeiliaid allweddol.
