Delyth Jewell AS, Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod
Mae gan bobl ag anableddau dysgu yr hawl i fyw bywydau hapus, iach a boddhaus, ac i gael eu gwrando arnynt a'u clywed. Mae ganddynt hawl i chwarae rhan lawn yn eu cymunedau fel aelodau gweithgar a gwerthfawr o gymdeithas.
Yn fy Natganiad Ysgrifenedig dyddiedig 2 Gorffennaf, cyhoeddais dri mesur pwysig i helpu i gyflawni'r uchelgeisiau hyn ac i gryfhau gwasanaethau anabledd dysgu yng Nghymru: cyhoeddi data arbenigol am gleifion mewnol, datblygu Datganiad Ansawdd Integredig, a chyflwyno Rhaglen Trawsnewid Anabledd Dysgu tair blynedd newydd.
Rydym bellach wedi cyhoeddi dau ddatganiad data arbenigol am gleifion mewnol ag anabledd dysgu a heddiw rwy'n falch o lansio'r Rhaglen Trawsnewid Anabledd Dysgu 2026–2029 a chyhoeddi'r Datganiad Ansawdd Integredig ar gyfer Pobl ag Anabledd Dysgu. Gyda'i gilydd, maent yn darparu fframwaith cenedlaethol clir ar gyfer gwella gwasanaethau a chefnogi canlyniadau gwell i bobl ag anableddau dysgu ledled Cymru.
Mae'r Datganiad Ansawdd Integredig yn nodi gweledigaeth glir ar gyfer gofal iechyd a gofal cymdeithasol integredig o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y person. Mae'n pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod sefydliadau'n gweithio gyda'i gilydd ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, tai, addysg a'r trydydd sector i ddarparu cymorth cydgysylltiedig sy'n cydnabod ac yn diwallu anghenion pobl drwy gydol eu bywydau.
Wedi'i datblygu drwy ymgysylltiad sylweddol â gwasanaethau a rhanddeiliaid sy’n bartneriaid, mae'r Rhaglen Trawsnewid Anabledd Dysgu yn darparu'r map trywydd ymarferol ar gyfer cyflawni'r weledigaeth hon dros y tair blynedd nesaf. Mae'n adeiladu ar y cynnydd a wnaed drwy'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anabledd Dysgu ac yn ymateb i'r dystiolaeth, y profiadau a'r argymhellion sy'n deillio o'r gwaith Bywydau Wedi'u Dwyn: Cartrefi nid Ysbytai
Bydd y Rhaglen yn canolbwyntio ar bedwar maes gwaith cysylltiedig:
- gwella data, gwybodaeth a chyngor;
- datblygu modelau gofal cymunedol integredig;
- gwella gwasanaethau a llwybrau cleifion mewnol arbenigol;
- cryfhau tai a chymorth llety fel y gall mwy o bobl fyw'n ddiogel ac yn iach, mor agos at y cartref â phosibl.
Mae'r Rhaglen wedi'i hadeiladu ar egwyddorion atal, ymyrraeth gynnar a gweithio mewn partneriaeth. Ei nod yw sicrhau bod pobl yn derbyn y gefnogaeth gywir, ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn, tra'n sicrhau mynediad at ofal cleifion mewnol arbenigol pan fo angen. Er mwyn cyflawni hyn, bydd y Bwrdd Rhaglen Integredig a'i bedair ffrwd waith yn dod â phartneriaid o’r meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector, pobl â phrofiad byw, a rhanddeiliaid allweddol eraill ynghyd i ysgogi cyflawni a gwelliannau ar y cyd.
Bydd hefyd yn helpu partneriaid i baratoi ar gyfer y diwygiadau Deddf Iechyd Meddwl sydd ar ddod ac yn cefnogi cyflawni'r Glasbrint System Gofal Cymunedol Integredig (ICCS) ar gyfer Cymru.
Bydd cyfranogiad ystyrlon ac ymgysylltu uniongyrchol yn ganolog i'r Rhaglen. Bydd pobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, eu gofalwyr a'u heiriolwyr yn helpu i lunio a gwella gwasanaethau, gan sicrhau bod y ffocws yn parhau i fod ar yr hyn sydd fwyaf pwysig.
Gan adeiladu ar arferion da presennol ledled Cymru, bydd y Rhaglen yn hyrwyddo mwy o gysondeb, arloesi a dysgu a rennir. Bydd llwyddiant yn dibynnu ar arweinyddiaeth gref, cydweithredu ac atebolrwydd a rennir ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.
Mae lansio'r rhaglen hon a chyhoeddi'r Datganiad Ansawdd Integredig yn nodi'r symud ffocws pwysig o uchelgais i weithredu. Gan weithio ochr yn ochr â darparwyr gwasanaeth, pobl ag anableddau dysgu, teuluoedd, gofalwyr a phartneriaid ledled Cymru, byddwn yn creu gwasanaethau mwy ymatebol, cefnogaeth gymunedol gryfach a gwell cyfleoedd i bobl fyw bywydau boddhaol yn y lleoedd maen nhw eisiau byw a lle maen nhw'n galw'n gartref.
