Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AM, Gweinidog dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Datganiad ysgrifenedig - Rhaglenni cyfnewid rhyngwladol rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau

Cafodd dwy bartneriaeth addysg newydd pwysig rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau eu lansio neithiwr yng Nghynhadledd Flynyddol ac Expo NAFSA 2019 yn Washington DC, sef y gynhadledd addysg ryngwladol fwyaf yn y byd.

Am y tro cyntaf erioed, ceir rhaglen benodedig i Gymru gyda Chomisiwn Fulbright UD-DU a Rhaglen Ysgoloriaeth Ryngwladol Benjamin A. Gilman. Bydd hyn yn fodd i ddarparu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr ac ymchwilwyr o'r ddwy wlad fynd i brifysgol yn y wlad arall a chyfrannu at fywyd academaidd a diwylliannol y wlad.

Bydd chwech o fyfyrwyr ôl-radd ac ymchwilwyr o Gymru yn astudio yn yr Unol Daleithiau, a bydd myfyrwyr o'r Unol Daleithiau'n cael yr un cyfle i astudio mewn prifysgolion yng Nghymru. Rwyf hefyd wedi cytuno y bydd yr Athro Colin Riordan, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, yn gwarchod buddiannau Cymru ar Fwrdd Comisiwn Fulbright.

Yn ogystal, rwy'n hynod falch y bydd Comisiwn Fulbright yn gweithio gyda'i bartner, y Sefydliad Addysg Ryngwladol yn yr Unol Daleithiau, i hyrwyddo Cymru a'n sefydliadau ymchwil ar draws yr Unol Daleithiau. Cyfarfûm â'r Sefydliad Addysg Ryngwladol yn ystod fy ymweliad â'r Unol Daleithiau yn 2018 i drafod uchelgais Cymru ar gyfer ymweliadau cyfnewid, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi llwyddo i gyflawni hynny.

Mae Rhaglen Ysgoloriaeth Ryngwladol Benjamin A. Gilman yn targedu myfyrwyr o gefndiroedd llai breintiedig yn yr Unol Daleithiau na fyddent, fel arall, yn cael cyfle i astudio dramor. Bydd y cytundeb yn darparu lleoedd i ddeg o fyfyrwyr israddedig o'r Unol Daleithiau astudio mewn prifysgolion yng Nghymru.

Rydym wedi llofnodi cytundeb gyda Biwro Materion Addysgol a Diwylliannol Adran Wladol yr Unol Daleithiau i gefnogi ysgolorion Gilman yng Nghymru, i gydweithio er mwyn cynyddu gallu myfyrwyr i astudio dramor a chreu cyfleoedd mwy amrywiol, ac i ddatblygu mwy o gyd-ddealltwriaeth.

Mae hyn yn adeiladu ar y cynllun peilot newydd ar symudedd myfyrwyr rhyngwladol a gyhoeddais yn ddiweddar, a fydd yn sicrhau bod llawer mwy o fyfyrwyr o Gymru o bob cefndir yn elwa ar y profiad trawsnewidiol o dreulio amser yn astudio, yn gwirfoddoli ac yn ymgymryd â phrofiad gwaith dramor. Rydym hefyd wedi ehangu ein cysylltiadau â phrifysgolion Yale, Harvard ac MIT, sy'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr o Gymru yma ac yn yr Unol Daleithiau.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os yw'r aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hyn.