Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn y cyhoeddiad gan NHS Digital am y newidiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Lloegr i'r ffordd y mae cofnodion cleifion a gedwir gan feddygon teulu yn cael eu casglu yn ganolog, a'r sylw dilynol y cawsant yn y cyfryngau, mae'r datganiad ysgrifenedig hwn yn rhoi manylion am beth sy’n digwydd o ran rhannu cofnodion iechyd yng Nghymru.

I fod yn hollol glir, dim ond yn Lloegr y mae'r newid yr adroddir arno yn y cyfryngau i’r ffordd y mae cofnodion cleifion yn cael eu casglu yn digwydd. Nid oes gan NHS Digital unrhyw awdurdod na chyfrifoldeb yng Nghymru. Fodd bynnag, bydd angen i drigolion Cymru sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn Lloegr optio allan erbyn 1 Medi os nad ydynt am i'w data gael eu cynnwys. Mae mwy o wybodaeth am ddefnydd Lloegr o’u Data Meddyg Teulu ar gyfer Cynllunio ac Ymchwil i'w gweld yma.

Mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru wedi ymrwymo i wella sut rydym yn defnyddio data iechyd a gofal, er enghraifft, i alluogi darganfod problemau iechyd unigolion yn gynt, cefnogi gwell cynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal ac i ddarparu platfform ar gyfer ymchwil iechyd. Mae mynediad at ddata ar raddfa fawr yn hanfodol os ydym am ddefnyddio deallusrwydd artiffisial neu unrhyw dechnoleg dadansoddeg ddigidol newydd.

Mae cyfrinachedd cofnodion cleifion a diogelwch cyffredinol data personol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni.

Mae gennym ni drefniadau cadarn ac uchel eu parch ar gyfer ymchwilwyr cymeradwy i gael mynediad diogel i ddata iechyd trwy'r SAIL Databank (Cysylltu Gwybodaeth Ddienw yn Ddiogel). Mae SAIL yn flaenllaw ar gyfer storio a defnyddio data dienw sy’n seiliedig ar berson at ddibenion ymchwil foesegol ac mae wedi bod yn rhan bwysig o'n hymateb i’r pandemig Covid-19. Dim ond ar gyfer ymchwilwyr cymeradwy y rhoddir mynediad i'r data dienw hwn, yn amodol ar brosesau cymeradwyo moesegol llym. Yn gyffredinol, dim ond trwy Borth diogel SAIL y gellir gweld a dadansoddi'r data. Mewn amgylchiadau eithriadol lle mae angen trosglwyddo'r data, mae angen cymeradwyaeth benodol perchennog y data.

Er mwyn sicrhau bod data iechyd a gofal ar gael yn haws i'r rhai sydd ei angen, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn natblygiad yr Adnodd Data Cenedlaethol (NDR). Mae rhannu gwybodaeth yn effeithlon ac yn ddiogel rhwng sefydliadau iechyd a gofal yn rhan bwysig o ddarparu gofal o ansawdd uchel, er enghraifft pan fydd pobl yn symud o un ardal i'r llall, neu'n derbyn triniaeth gan wahanol sefydliadau.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn dryloyw ynghylch preifatrwydd a'r defnydd o ddata iechyd a gofal yng Nghymru, a byddwn yn ymgysylltu â chleifion a'r cyhoedd wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau a'r camau nesaf ymhellach.