Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Awst 2023, cyflwynwyd Model Gweithredu Targed y Ffin, gan gynnwys trefniadau a gytunwyd gan lywodraethau DU, Cymru a’r Alban i ddiogelu ein bioddiogelwch a'n diogelwch bwyd. Nododd y gofynion o ran rheolaethau’r ffin ar ôl Brexit ar fewnforion o'r UE, gan gynnwys mai dim ond drwy borthladd â safle rheolaethau’r ffin y gellid mewnforio anifeiliaid byw a nwyddau fel bwyd.

Yn unol â'r trefniadau hynny, comisiynodd Llywodraeth Cymru y gwaith o adeiladu safle rheolaethau’r ffin ar ein tir yn Parc Cybi yn mis Mawrth 2024 er mwyn sicrhau y gallai Caergybi - y porth fferïau mwyaf prysur ym Môr Iwerddon, gyda mwy na thri chwarter o fewnforion i Brydain Fawr o Iwerddon - barhau i weithredu. Yn yr un modd â safleoedd rheolaethau’r ffin ledled Prydain Fawr, darparodd Trysorlys EF arian ar gyfer y gwaith adeiladu - yn yr achos hwn, £44m o gost o £51m a ysgwyddwyd hyd at ddiwedd 2024-25. Mae adeiladu safle yng Nghaergybi bellach bron wedi’i gwblhau, ac mae disgwyl i'r adeilad gael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru yr hydref hwn.

Ym mis Mai 2025, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Ddealltwriaeth Gyffredin gyda'r Undeb Ewropeaidd gyda golwg ar negodi 'Ardal Iechydol a Ffytoiechydol' a allai eithrio, os caiff ei gytuno, lawer o fewnforion anifeiliaid byw a nwyddau rhag gwiriadau iechydol a ffytoiechydol ar y ffin. Mae manylion y cytundeb i’w trafod o hyd. Rydym yn parhau i drafod gyda chydweithwyr yn Llywodraeth y DU sy’n arwain y trafodaethau hyn, a chyda chydweithwyr yn Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Rydym hefyd yn ymrwymedig i sicrhau lefel dderbyniol o bioddiogelwch yn ystod y cyfnod interim tra bo’r cytundeb yn cael ei drafod a’i roi ar waith.

Bydd y Senedd yn cofio, er bod gwiriadau ffisegol ac adnabod ar fewnforion o'r UE wedi dechrau ar 30 Ebrill 2024, ni chafodd unrhyw ddyddiad cychwyn ei gyhoeddi erioed ar gyfer mewnforion o Iwerddon. Felly, rwyf wedi penderfynu peidio â 

chomisiynu a staffio’r safle yng Nghaergybi, ac na chaiff adeiladu safle rheolaethau’r ffin yn Abergwaun a Doc Penfro ei gychwyn. Byddaf yn parhau i adolygu’r penderfyniad hwn hyd nes bod manylion terfynol y cytundeb â'r UE yn hysbys. Byddwn yna'n gallu gwneud cynlluniau tymor hwy ar gyfer y safle yn Nghaergybi. 

Yn y cyfamser, mae'n hanfodol ei fod yn barod a gellir ei ddefnyddio fel safle rheolaethau’r ffin posibl.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu rhybudd digonol i fasnachwyr a phartneriaid cyflenwi os bydd angen cyflwyno unrhyw wiriadau newydd ar y ffin.

Mae'r angen am gyfleusterau rheoli ffiniau newydd ledled Prydain Fawr yn llifo'n uniongyrchol o'r penderfyniad gwreiddiol i ymadael â'r UE. Mae'r costau sy'n gysylltiedig â chynnal cyfleuster Caergybi mewn cyflwr parod, heb roi’r swyddogaethau rheoli ffiniau ar waith eto,yn ganlyniad i’r trafodaethau sy’n mynd rhagddynt rhwng y DU a'r UE ar y cytundebau iechydol a ffytoiechydol. Mae’r trafodaethau hyn yn ganlyniad o’r penderfyniad gwreiddiol i ymadael â'r UE.