Jack Sargeant AS, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Bydd yn ofynnol i'r cyrff cyhoeddus a restrir yn Neddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 naill ai gynnwys cymalau yn eu contractau adeiladu a sicrhau bod y rhain yn cael eu gweithredu a'u pasio ymlaen ar hyd cadwyni cyflenwi, neu hysbysu Gweinidogion Cymru yn esbonio pam nad ydynt wedi gwneud hynny.
Bydd y cymalau yn ei gwneud yn ofynnol i arian prosiectau gael ei gadw mewn Cyfrifon Banc Prosiectau. Mae'r cyfrifon hyn wedi'u diogelu drwy ymddiriedolaeth ac yn cyflymu taliadau'r gadwyn gyflenwi i tua 3-5 diwrnod yn hytrach nag wythnosau. Mae Cyfrifon Banc Prosiectau hefyd yn helpu i ddiogelu arian os bydd prif gontractwr yn mynd yn fethdalwr. Hefyd, rhaid diogelu arian a gedwir yn ôl, neu arian a gedwir wrth gefn i fynd i'r afael â diffygion, mewn cyfrifon sydd wedi'u clustnodi.
Bydd y cymalau newydd hyn o fudd arbennig i gontractwyr llai, a fyddai fel arall yn wynebu problemau cyllido a llif arian yn aml oherwydd taliadau hwyr ac ansolfedd.
Bydd y cymalau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol cynllunio i hybu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant, sicrhau cydymffurfiaeth â chyfraith cyflogaeth, creu mwy o gyfleoedd is-gontractio i fusnesau bach a chanolig, a chefnogi camau i ddiogelu'r amgylchedd.
Os ydych yn ymwneud â chontractau adeiladu cyhoeddus, fel cleient, contractwr neu is-gontractwr, rwy'n eich annog i ymateb i'r ymgynghoriad ac i baratoi ar gyfer y gofynion newydd hyn y bwriedir iddynt ddod i rym yn fuan y flwyddyn nesaf.
