Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma roi gwybod i Aelodau fy mod wedi cytuno, yn unol ag egwyddorion Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru, i ddileu’n ffurfiol yr arian sy’n ddyledus mewn cysylltiad â phrosiect ‘Cylchffordd Cymru’.

O ran Cylchffordd Cymru, er cyfarwyddo fy swyddogion i wneud popeth yn eu gallu i gael yr arian dyledus yn ôl ac ystyried yr un pryd pob cyfle i gadw’r prosiect yn fyw, rwyf wedi cytuno i ddileu dwy anfoneb gwerth £14.9 miliwn.  Mae’r anfonebau hyn yn ymwneud â gwarant i Santander Bank ar gyfer benthyciad ganddynt i’r Heads of the Valleys Development Company i ddatblygu cylchffordd rasio ceir Cylchffordd Cymru (COW) ym Mlaenau Gwent.  Mae aelodau’n cofio mae’n siŵr na lwyddodd y cwmni i sicrhau’r cyllid masnachol oedd ei angen i ddatblygu’r gylchffordd a bu’n rhaid rhoi’r gorau i’r prosiect.

Rwyf wedi cytuno hefyd i ddileu’r llog oedd yn ddyledus ar ffi’r gwarant a’r costau cyfreithiol oedd yn gysylltiedig â threfnu’r gorddrafft a threfnu bod cyfrifon Llywodraeth Cymru’n ei adlewyrchu, gan gofio fy mod bellach wedi deall na fydd y llog yn debygol o gael ei ad-dalu.

Dylai aelodau nodi ein bod wedi cyflwyno hawliad i Weinyddwr y Trefniant Gwirfoddol â Chredydwyr HOVDC ar ran Llywodraeth Cymru ac nad yw’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dileu’r ddyled yn ffurfiol yn golygu na cheisir sicrhau ad-daliad os gwelir bod arian ar gael.