Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Drwy'r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, ymrwymwyd i weithio gyda'r gymuned ffermio wrth ddefnyddio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, i wella ansawdd dŵr ac aer, gan gymryd ymagwedd wedi'i thargedu at y gweithgareddau hynny y gwyddir eu bod yn achosi llygredd. Ym mis Hydref 2022, cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig ar y pecyn o fesurau y cytunodd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru arnynt er mwyn datblygu’r ymrwymiad hwn.  

Fel rhan o'r pecyn hwn o fesurau, ym mis Tachwedd 2022, cyhoeddais ymgynghoriad ar gymorth a thystiolaeth ar gyfer cynigion am gynllun trwyddedu, a fyddai'n galluogi busnesau fferm i wneud cais am drwydded ar gyfer terfyn nitrogen blynyddol uwch ar gyfer daliadau o hyd at 250kg/ha, yn amodol ar anghenion cnydau ac ystyriaethau cyfreithiol eraill.  Ar yr un pryd, er mwyn caniatáu amser a lle i ymgynghori, estynnais y cyfnod pontio sy'n berthnasol i'r terfyn nitrogen blynyddol ar gyfer tail da byw ar ddaliadau 170kg / ha hyd at fis Ebrill 2023. Er mwyn gallu ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, estynnais y cyfnod pontio ymhellach hyd at 31 Hydref 2023.

Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i roi eu barn ar y cynigion. Er na chyflwynwyd tystiolaeth newydd, dangosodd ymatebion i'r ymgynghoriad lefelau uchel o gefnogaeth ar gyfer cynllun, ar yr amod ei fod yn syml ac yn hawdd i wneud cais am drwydded. Roedd gwrthwynebiadau'r cynllun yn canolbwyntio ar yr effeithiau amgylcheddol ac ansawdd dŵr.

Rwy’n parhau i ystyried y mater hwn yn ofalus iawn, yn sgil y pryderon a godwyd ynghylch baich unrhyw broses drwyddedu ar y sector a'r pryderon a godwyd mewn perthynas â'r amgylchedd. Byddaf yn gwneud datganiad pellach yn ystod yr wythnosau nesaf. 

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.