Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Drwy'r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, gwnaethom ymrwymo i weithio gyda'r gymuned ffermio wrth ddefnyddio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, i wella ansawdd dŵr ac aer, gan ddefnyddio dull gweithredu wedi'i dargedu at y gweithgareddau hynny rydym yn gwybod sy'n achosi llygredd. Ym mis Hydref 2022, cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig ar y pecyn o fesurau y cytunodd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru arnynt er mwyn datblygu'r ymrwymiad hwn.

Fel rhan o'r pecyn hwn o fesurau, ac mewn ymateb i bryderon penodol am barodrwydd y sector i weithredu mesurau rheoli ar faint o nitrogen o dail da byw sydd i'w ddefnyddio ar y tir, ym mis Tachwedd 2022, cyhoeddais ymgynghoriad ar gymorth a thystiolaeth ar gyfer cynigion ar gyfer cynllun trwydded â therfyn amser.  Byddai'r cynllun arfaethedig yn galluogi busnesau fferm i wneud cais am drwydded ar gyfer defnyddio lefel flynyddol uwch o nitrogen hyd at 250kg/ha, yn amodol ar angen cnydau a mesurau ychwanegol o ran diogelu'r amgylchedd, tan 2025. 

Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ac yn nodi'r camau nesaf, yn dilyn ystyriaeth ofalus o'r holl ymatebion a ddaeth i law. 

Dangosodd yr ymatebion i'r ymgynghoriad bod lefel uchel o bobl o blaid cynllun, ar yr amod bod y cynllun yn syml ac yn hawdd i fusnesau fferm ei roi ar waith. Roedd nifer helaeth o blaid cynllun o'r egwyddorion o ddangos yr angen am lefelau uwch o faethynnau a mesurau rheoli cysylltiedig i liniaru risgiau amgylcheddol posibl, a fyddai'n cyd-fynd â'r enw da sydd gan ffermio yng Nghymru ledled y byd am ei safonau uchel o ran yr amgylchedd a lles anifeiliaid. 

Pwysleisiodd yr ymatebion i'r ymgynghoriad bryderon hefyd am yr effeithiau posibl defnyddio lefelau uwch o faethynnau ar yr amgylchedd a'r cyfyngiadau a roddir ar eraill o ganlyniad i lygredd yn ein hafonydd a'n dyfrffyrdd. 

Mae'r dystiolaeth y mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 wedi'u seilio arni yn parhau heb ei newid, ac nid oes tystiolaeth newydd wedi'i chyflwyno yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad.

O ran canlyniad yr ymgynghoriad, rwyf wedi penderfynu bwrw ymlaen â dull gweithredu â therfyn amser i alluogi defnyddio lefel uwch o faethynnau o dail da byw lle mae angen hynny ar gnydau, ochr yn ochr â mesurau ychwanegol i ddiogelu'r amgylchedd rhag y risg o lygredd. I gydnabod y gefnogaeth yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar gyfer dull syml a hawdd, rwyf hefyd wedi ystyried yn ofalus y ffordd fwyaf addas o weithredu'r penderfyniad hwn.  

Byddaf yn cyflwyno diwygiadau i Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 i weithredu 'Dull Rheoli Maethynnau Uwch' o 1 Ionawr 2024 i 31 Rhagfyr 2024.  Bydd hyn ar waith lle mae angen mwy na 170kg / ha o  nitrogen o dail da byw ar y tir. 

Os yw cynlluniau rheoli maethynnau ar gyfer 2024 yn nodi ei bod yn debygol bod angen defnyddio mwy na'r gyfradd flynyddol o 170kg / ha o nitrogen o dail da byw, rhaid i fusnesau fferm hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru erbyn 31 Mawrth 2024 a chymryd camau ychwanegol, a hynny gan fod yn gyson ag amodau'r drwydded arfaethedig yr ymgynghorwyd arnynt, i leihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â thaenu tail ychwanegol ar y tir.  Mae'r dull hwn yn disodli'r broses ymgeisio am drwydded arfaethedig, gan gadw'r egwyddorion yr ymgynghorwyd arnynt a'r rhai yr oedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad o'u plaid.

Bydd y Dull Rheoli Maethynnau Uwch yn cael ei weithredu mewn dau gam i roi sicrwydd i ffermwyr a chaniatáu amser i baratoi a gosod rheoliadau diwygio gerbron y Senedd. 

Y cam cyntaf yw gosod rheoliadau, sy'n symud dyddiad gweithredu'r terfyn 170kg / ha o nitrogen o dail da byw ar gyfer daliadau, a dyletswyddau cadw cofnodion cysylltiedig o 31 Hydref 2023 i 1 Ionawr 2024. Mae'r cam cyntaf wedi’i gwblhau heddiw. Yr ail gam yw gosod set arall o reoliadau gerbron y Senedd sy'n gweithredu'r dull Rheoli Maethynnau Uwch yn llawn a bydd yn cynnwys manylion y mesurau sydd eu hangen. Bydd y rheoliadau hyn yn cael eu gosod cyn 30 Tachwedd 2023.

Mae'r camau newydd hyn yr wyf yn eu cyhoeddi heddiw, o dan y Cytundeb Cydweithio, yn cynrychioli camau pellach tuag at ein nod cyffredin i leihau'n sylweddol y llygredd sy'n deillio o amaethyddiaeth, gan ddangos ein hymrwymiad parhaus i wneud hynny mewn partneriaeth â'r gymuned ffermio i sicrhau canlyniadau parhaol.  

Wrth wneud y cyhoeddiad hwn heddiw, rwyf hefyd yn ailadrodd ein hymrwymiad parhaus i geisio'r mecanweithiau gorau i fynd i'r afael ag effeithiau gweithgareddau amaethyddol ar ansawdd ein dŵr. Mae hyn hefyd yn cynnwys potensial technoleg i leihau'r risg o lygredd a hwyluso gwelliannau, a pharhau i groesawu cynigion i gyflawni'r canlyniadau yr ydym am eu sicrhau ar unrhyw adeg. Byddwn hefyd yn cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol penodol pellach, fel yr ymrwymwyd iddo yn flaenorol, gan ystyried effeithiau economaidd ac amgylcheddol terfyn nitrogen blynyddol o 170kg/ha ar gyfer daliadau. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r rhai sydd wedi cynnig dewisiadau amgen o dan reoliad 45, i lywio'r adolygiad 4 blynedd y mae'n rhaid ei gynnal erbyn 1 Ebrill 2025 ar weithrediad y rheoliadau yn y dyfodol.