Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r tywydd gwlyb a’r gwyntoedd cryfion diweddar wedi achosi llifogydd eang ar draws y DU.  Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cadarnhau adroddiadau bod dros 1,300 eiddo wedi dioddef llifogydd, gyda dros 400 ohonynt yng Nghymru.  

Amharwyd cryn dipyn hefyd ar ein rhwydwaith trafnidiaeth, yn arbennig yn y gogledd lle gwelwyd effaith ar yr A55, A5 a’r brif linell rheilffordd. Mae dau Rybudd Llifogydd Difrifol wedi’u cyhoeddi ar gyfer yr Afon Elwy; y lefel uchaf o rybudd, sy’n golygu bod perygl i fywyd.  Roedd yn rhaid symud pobl o dros 500 eiddo yn Llanelwy yn sgil llifogydd yn yr ardal, ac agorwyd canolfan argyfwng yn Rhuthun lle gwelwyd llifogydd mewn hyd at 100 eiddo.

Mae’r dŵr sy’n llifo o’r mynyddoedd i’r afonydd yn golygu nad yw’r perygl o lifogydd wedi pasio eto ac ni ddylai pobl ddychwelyd i’w cartrefi nes iddynt gael eu cynghori i wneud hynny gan y gwasanaethau brys.

Mae Cymru’n dod yn fwy cyfarwydd â chanlyniadau llifogydd. Dyma’r unfed achos ar ddeg o lifogydd yng Nghymru a Lloegr ers mis Ebrill. Hyd yma mae 700 eiddo yng Nghymru wedi dioddef llifogydd eleni, gyda 7,300 wedi dioddef llifogydd ar draws Cymru a Lloegr.  Dyma’r haf gwlypaf yng Nghymru ers 80 o flynyddoedd, a’r gwlypaf ond dau erioed i’w cofnodi.  

Ymateb brys i’r llifogydd

Mae’r Gwasanaethau Brys, Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaethau Cefnffyrdd, yr awdurdodau lleol ac eraill wedi bod yn gweithio’n galed ers yr wythnos ddiwethaf yn paratoi ar gyfer y cyfnod hwn o law, ac yn ymateb iddo. Gwnaethpwyd gwaith i drwsio heolydd a rheilffyrdd er mwyn gwneud yn siŵr bod y system trafnidiaeth yn parhau i weithio, ac mae’r gwaith trwsio’n parhau lle gwelwyd yr effaith fwyaf.

Bydd y gwaith o lanhau yn cymryd amser mewn nifer o’n cymunedau ac fe fydd y rhai sydd wedi’u heffeithio’n parhau i dderbyn cefnogaeth yr asiantaethau. Mae llifogydd yn effeithio’n uniongyrchol ac yn amlwg ar y rhai sy’n ei ddioddef a’r gymuned ehangach. Gall gymryd sawl mis i eiddo sychu, a chyfnod llawer yn hwy i’r atgofion bylu.

Y camau nesaf

Yn ôl rhagolygon y tywydd gallwn ddisgwyl llai o law dros y diwrnodau nesaf, gan roi cyfle i lefelau’r dŵr ostwng a rhyddhau capasiti o fewn y system.  Bydd hyn hefyd yn caniatáu i ni edrych ar y sefyllfa a dechrau gwerthuso.

Rydym wedi rhoi cyfarwyddyd i Asiantaeth yr Amgylchedd weithio gyda swyddogion trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ac Asiant Cefnffyrdd Gogledd Cymru i asesu gwytnwch yr A55. Byddwn hefyd yn adolygu materion eraill fel gallu draenio priffyrdd, trefn cynnal a chadw ac archwilio, llwybrau gwyriad a chyfathrebu. Byddwn hefyd yn ystyried y gwerthusiadau a baratowyd gan y rhai sy’n gwneud y gwaith ar draws Cymru.  

Rydym eisoes wedi cychwyn rhoi’r gwersi a ddysgwyd o lifogydd yr haf ar waith, ac fe fyddwn yn ehangu’r rhaglen honno i gynnwys y gwersi a ddysgwyd yn ystod y penwythnos hwn. Yn y cyfamser, dylai pob un ohonom ystyried ein trefniadau ein hunain.  Cofrestrwch gyda gwasanaeth uniongyrchol y Llinell Rybuddion Llifogydd, ystyriwch beth sydd angen ei wneud i amddiffyn eich cartref a gwrandewch ar gyngor y gwasanaethau brys ac Asiantaeth yr Amgylchedd.

Yswiriant Llifogydd

Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn arwain trafodaethau gyda’r diwydiant yswiriant ynghylch cytundeb newydd. Rydym yn gweithio gyda’n cydweithwyr yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban i ddod i gytundeb sy’n dderbyniol i bawb ac fe fu Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy yn cyfarfod â’i swyddogion cyfatebol o bob un o’r gwledydd datganoledig yr wythnos ddiwethaf er mwyn trafod y mater.  

Rydym yn gwbl ymroddedig i sicrhau bod y rhai sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd yn medru parhau i gael eu hyswirio. Fodd bynnag, ein prif nod ar hyn o bryd yw helpu’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan y llifogydd presennol.

Diogelu Pobl ac Eiddo

Mae amddiffynfeydd llifogydd Cymru’n gostwng y perygl sy’n wynebu dros 70,000 eiddo. Dros y bum mlynedd ddiwethaf mae cynlluniau lliniaru llifogydd wedi lleihau’r perygl i dros 4,500 o gartrefi a busnesau yng Nghymru mewn ardaloedd megis Tywyn, Aber Afon Clwyd ac Abergele.  Mae’r rhaglen Ymwybyddiaeth Llifogydd Cymru gan Asiantaeth yr Amgylchedd wedi helpu dros 300 o gymunedau i baratoi cynlluniau llifogydd, ac mae 100,000 o bobl Cymru wedi tanysgrifio i dderbyn rhybuddion llifogydd.

Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi dros £150 miliwn i reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn ystod y Cynulliad hwn, gyda chefnogaeth bron i £50 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.  Bydd hyn yn helpu i ddiogelu dros 7,000 eiddo, gan gynnwys dros 1,000 o fusnesau, yn unol â’r amcanion a osodwyd yn fy Strategaeth Genedlaethol Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Mae digwyddiadau diweddar yn dangos yn glir pam fod angen parhau i fuddsoddi fel hyn yng Nghymru.

Mae polisi cynllunio Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu fframwaith rhagofalus clir iawn ar gyfer osgoi datblygiadau newydd mewn ardaloedd sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd. Ein nod cyffredinol yw sicrhau bod datblygiadau newydd yn cael eu cyfeirio oddi wrth y gorlifdir.