Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n falch i roi gwybod bod y rheoliadau sy'n ymwneud â chyhoeddi gwybodaeth asesiadau athrawon wedi dod i rym heddiw. Dyma'r newid deddfwriaethol cyntaf yn sgil Dyfodol Llwyddiannus. Mae hefyd yn cefnogi un o brif amcanion Cenhadaeth ein Cenedl, sef sicrhau “trefniadau asesu, gwerthuso ac atebolrwydd cadarn i ategu system hunanwella”.

Mae’r dystiolaeth ryngwladol yn glir: os ydym i godi safonau ar gyfer pob dysgwr, rhaid inni sicrhau bod gennym system asesu ac atebolrwydd gydlynol. Prif ddiben asesu yw darparu gwybodaeth sy’n cynnig canllaw wrth wneud penderfyniadau am y ffordd orau o ddatblygu camau dysgu disgyblion. Eto i gyd, am yn rhy hir, mae asesiadau athrawon yng Nghymru wedi bod yn rhan o’n system atebolrwydd; mae’r llinellau rhwng y ddwy elfen wedi mynd yn aneglur, gan arwain at ganlyniadau nad oeddem wedi’u bwriadu, a’n rhwystro rhag codi safonau ysgolion.

Bydd y newidiadau sy’n dod i rym heddiw yn sicrhau bod gennym, bellach, system fwy cydlynol. O hyn allan, ni fydd data asesu athrawon na data Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ar lefel yr ysgol, awdurdod lleol a chonsortia yn cael eu cyhoeddi. Mae hynny'n berthnasol i'r Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 ym mhob ysgol gynradd ac uwchradd a gynhelir. Bydd y newidiadau hyn yn helpu i symud y sylw yn ôl i ddefnyddio asesiadau athrawon yn sail ar gyfer gwella addysgu a dysgu. Bydd ein trefniadau newydd yn rhoi pwyslais o'r newydd ar Asesu ar gyfer Dysgu fel nodwedd hanfodol ac annatod o ddysgu ac addysgu; mae hwn yn gam pwysig oddi wrth gasglu gwybodaeth am berfformiad pobl ifanc fesul ysgol at ddibenion atebolrwydd.

Y trefniadau a fydd yn parhau:

  • Bydd y Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ac Asesiadau Athrawon ar gyfer dysgwyr unigol yn parhau.
  • Bydd gofyn i Benaethiaid adrodd am berfformiad ysgol i rieni a dysgwyr sy'n oedolion bob blwyddyn ysgol (bydd rhieni'n gallu cymharu perfformiad ysgol eu plant â'r lefel genedlaethol o hyd).
  • Bydd yn ofynnol i gyrff llywodraethu gynhyrchu adroddiadau blynyddol ar gyfer rhieni, prosbectysau ysgol, cynlluniau datblygu ysgolion, a phennu targedau perfformiad ac absenoldeb.
  • Bydd ysgolion, cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol yn parhau i gael mynediad at eu data eu hunain (ynghyd â data ar lefel genedlaethol) at ddibenion hunanwerthuso.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gasglu data am ddysgwyr unigol i sicrhau tryloywder am berfformiad ar lefel genedlaethol ac fel tystiolaeth a fydd yn sail i'n polisïau.

Y trefniadau a fydd yn newid

  • Ni fydd yr adroddiadau a grybwyllir uchod yn cynnwys gwybodaeth gymharol am asesiadau athrawon a phrofion mewn perthynas ag ysgolion eraill mewn ardal awdurdod lleol neu mewn perthynas â 'theulu o ysgolion'.
  • Ni fydd Llywodraeth Cymru bellach yn cynhyrchu nac yn cyhoeddi Adroddiadau Ysgol Cymharol na Setiau Data Craidd Cymru Gyfan ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol mewn perthynas â data asesu athrawon (mae hynny'n berthnasol i becynnau data 2017/18).
  • Ni fydd gwefan Fy Ysgol Leol bellach yn cynnwys data asesu athrawon sy'n is na'r lefel genedlaethol.

Edrychaf ymlaen at roi gwybod y diweddaraf ichi am ein cynnydd wrth gyflawni’r pedwar ‘amcan galluogi’ a nodir yn Cenhadaeth ein Cenedl.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod toriad er mwyn hysbysu'r Aelodau. Os bydd Aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull byddwn yn hapus i wneud hynny.