Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau'r Senedd yn dymuno bod yn ymwybodol ein bod yn rhoi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes sydd wedi’i ddatganoli mewn perthynas â Chymru.

Ceisiwyd cytundeb gan Victoria Prentis AS, y Gweinidog Gwladol dros Ffermio, Pysgodfeydd a Bwyd i wneud Offeryn Statudol (OS) o'r enw Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2022 (“y Rheoliadau”) i fod yn gymwys mewn perthynas â Phrydain Fawr.

Bydd yr OS uchod yn cael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan Erthyglau 5(3), 30(1), 32(3), 37(5), 41(3), 42(3), 54(3), 72(3) a 105(6) o Reoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar fesurau diogelu rhag plâu planhigion ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill.

Mae'r OS yn diwygio Rheoliad Deddfwriaeth yr UE (Rheoliad (EU) 2016/2031), sy'n diwygio Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) 2019/2072 (y Rheoliad Amodau Ffytoiechydol) sy'n sefydlu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a'r Cyngor, o ran mesurau diogelu rhag plâu planhigion.

Bydd y diwygiadau'n cynnwys mesurau plâu y mae’n ofynnol eu gweithredu ar frys a rhai nad ydynt ar frys, atal plâu planhigion rhag cael eu cyflwyno, diweddaru gofynion mewnforio a symud plâu penodol a dadreoleiddio plâu nad ydynt bellach yn fygythiad i fioddiogelwch Prydain Fawr. O ganlyniad, bydd y Rheoliadau hyn yn amddiffyn bioddiogelwch ac yn diogelu masnach rhwng Prydain Fawr (GB) a thrydydd gwledydd perthnasol a Rwsia drwy gyflwyno mesurau diogelu pellach ar gyfer nwyddau planhigion sydd mewn perygl.

Mae'r Rheoliadau'n gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth i amddiffyn bioddiogelwch a chefnogi masnach rhwng Prydain Fawr a thrydydd gwledydd perthnasol gan gyflwyno mesurau diogelu pellach ar gyfer nwyddau planhigion sydd mewn perygl.

Gosodwyd y Rheoliadau gerbron Senedd y DU ar 8 Chwefror 2022 i ddod i rym ar 2 Mawrth 2022.

Unrhyw effaith y gallai'r OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru

Gwnaeth Diwygiadau Amodau Ffytoiechydol blaenorol roi cywiriadau blaenorol ar waith a oedd yn ofynnol i'r drefn reoleiddio ar gyfer iechyd planhigion. Gwnaeth y rhain ehangu cymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru drwy roi swyddogaethau iddynt (yn rhinwedd eu swyddogaeth fel ‘Awdurdod Cymwys’ i Gymru) yn ddilyffethair. Bydd y Gweinidog am nodi nad yw'r Rheoliadau'n trosglwyddo unrhyw swyddogaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol.

Diben y diwygiadau

Mae'r Rheoliadau'n caniatáu cyflwyno mesurau ledled Prydain Fawr yn erbyn mewnforio planhigion cynhaliol a nwyddau perthnasol eraill a reoleiddir ar gyfer Scolytus morawitzi “chwilen rhisgl Morawitz” a Polygraphus proximus “chwilen rhisgl ffynidwydden Sakhalin”. Mae'r mesurau hyn yn gymwys i drydydd gwledydd penodol sy'n peri lefel annerbyniol o risg i Brydain Fawr.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn diweddaru mesurau plâu presennol i alluogi masnach a chryfhau amddiffyniadau rhag gwyfyn ymdeithiwr y derw ym Mhrydain Fawr. Yn ogystal, mae'r Rheoliadau'n addasu statws rheoleiddio rhai plâu eraill er mwyn sicrhau bod y camau deddfwriaethol yn gymesur â bygythiad pob pla.

Mae'r Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n nodi manylion tarddiad, diben ac effaith y diwygiadau ar gael yma.

Pam y rhoddwyd cydsyniad

Rhoddwyd cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud y cywiriadau hyn mewn perthynas â Chymru, ac ar ei rhan, am resymau effeithlonrwydd, hwylustod ac i amddiffyn bioddiogelwch drwy gyflwyno mesurau diogelu ar gyfer nwyddau planhigion sydd mewn perygl ledled y DU. Mae'r diwygiadau wedi'u hystyried yn llawn ac nid oes gwahaniaeth mewn polisi.