Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Bydd Aelodau o'r Senedd am gael gwybod ein bod yn rhoi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol i arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig o ran Cymru.
Gofynnwyd am gytundeb gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, y Farwnes Hayman o Ullock, i wneud Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2025 ('y Rheoliadau'). Mae'r Rheoliadau yn gymwys o ran Cymru, Lloegr a'r Alban.
Mae'r Rheoliadau'n diwygio Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) 2019/2072 sy'n sefydlu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 ('y Rheoliad Iechyd Planhigion') o ran mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion. Yn unol â'r Rheoliad Iechyd Planhigion, cysylltodd yr Ysgrifennydd Gwladol â Gweinidogion Cymru a'r Alban am gydsyniad i gymhwyso'r Rheoliadau i Gymru a'r Alban yn y drefn honno. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cynnal ymgynghoriad (y mae crynodeb ohono'n ymddangos yn y Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Rheoliadau).
Mae'r Rheoliadau'n diogelu bioddiogelwch ac yn cefnogi masnach rhwng Prydain Fawr a thrydydd gwledydd drwy gyflwyno a diwygio mesurau i amddiffyn rhag plâu planhigion. Maen nhw'n gwneud diwygiadau sydd wedi cael eu cynnig drwy broses barhaus o asesu risg i nodi bygythiadau i fioddiogelwch Prydain.
Dyma nhw:
- symud y plâu Neodiprion abietis (a elwir yn llifbryf ffynidwydd balsam) a Pseudomonas avellanae (pathogen bacteriol sy'n achosi dirywiad cyll), o'r rhestr o Blâu Cwarantin dros dro i'r rhestr o Blâu Cwarantin. Mae Plâu Cwarantin yn blâu rhestredig sy'n absennol o Brydain Fawr (neu o dan reolaeth swyddogol) sy'n peri risg annerbyniol i Brydain Fawr, gan y bydden nhw'n achosi difrod economaidd/amgylcheddol pe baen nhw'n cael eu cyflwyno. Mae asesiadau wedi dangos bod y plâu hyn yn bodloni'r meini prawf i fod yn Blâu Cwarantin, o ganlyniad i broses sganio risg a gorwelion;
- dileu'r firws crwn tybaco o'r rhestr o Blâu Cwarantin a'i ychwanegu at y rhestr o Blâu Di-gwarantin a Reoleiddir;
- adolygu'r rhestr o blanhigion i'w plannu sy'n cael eu rheoleiddio ar hyn o bryd fel planhigion lletyol firws crwn tomato;
- diwygio'r rhestr o nwyddau a reoleiddir fel nwyddau lletyol Agrilus planipennis (a elwir yn dyllbryf onn emrallt). Megis gyda (b) ac (c), cyflwynwyd y mesurau hyn ar sail risg i ddiogelu bioddiogelwch Prydain Fawr, ac ers hynny maen nhw wedi cael eu hadolygu yn dilyn datblygiadau gwyddonol diweddar;
- diweddaru'r cyfeiriadau at rywogaethau coed conwydd, yn dilyn newidiadau tacsonomig, i gynnwys unrhyw blanhigyn conwydd, o ystyried y gallai'r rhain hefyd fod yn gysylltiedig â phlâu risg uchel;
- cyflwyno diwygiadau canlyniadol i Atodiad 11 i alinio'r rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill, a'r gwahanol drydydd gwledydd tarddiad, neu'r gwledydd yr anfonwyd cynhyrchion o'r fath ohonyn nhw, y mae angen tystysgrifau ffytoiechydol mewn perthynas â nhw;
- gwneud diweddariadau technegol i egluro gofynion mewnforio penodol ac i ffurfioli hawddfraint fasnach bresennol.
Mae'r Rheoliadau'n ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol, a disgwylir iddyn nhw gael eu gosod gerbron Senedd y DU ar 8 Mai 2025. Nid oes gwahaniaeth polisi rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch y mater hwn ac mae'r Rheoliadau'n diwygio deddfwriaeth na chafodd ei gwneud yn ddwyieithog. Nid yw'r Rheoliadau yn effeithio ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd na chymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru.
Er mai egwyddor gyffredinol Llywodraeth Cymru yw y dylai'r gyfraith sy'n ymwneud â materion datganoledig gael ei gwneud gan Weinidogion Cymru, y tro hwn ystyrir ei bod yn briodol i'r Rheoliadau gael eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae'r Rheoliadau'n ymwneud â maes datganoledig, fodd bynnag, maen nhw'n effeithio ar fioddiogelwch Prydain Fawr – mater sydd wedi cael ei ystyried ar y cyd yn draddodiadol. Mae Prydain Fawr yn ynys ac nid yw plâu a chlefydau planhigion yn parchu ffiniau rhwng gwledydd. Mae llawer o'r Rheoliadau'n ymwneud â mewnforio planhigion a chynhyrchion planhigion. Mae'r rhan fwyaf o'r nwyddau hyn sy'n dod i mewn i Gymru yn dod drwy borthladdoedd Lloegr. Byddai cyflwyno rheoliadau ar wahân yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn peryglu gwahaniaeth ynghylch materion bioddiogelwch – maes lle mae polisïau'n cyd-fynd ar hyn o bryd. Gallai hyn rwystro camau gorfodi gan gyrff trawsffiniol a rhoi baich ychwanegol ar yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (sy'n gorfodi iechyd planhigion ledled Cymru a Lloegr) a busnesau. Lle mae polisi'n cyd-fynd, mae deddfu ar lefel Prydain Fawr yn cynorthwyo'r rhanddeiliaid hynny y mae'n rhaid iddyn nhw gydymffurfio â'r gofynion o fewn y ddeddfwriaeth i gynnal ein bioddiogelwch.
