Neidio i'r prif gynnwys

Siân Gwenllian AS, y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad ar gynigion i ddileu’r cyfyngiad amser ar y ddarpariaeth i hepgor “argyfwng cyffredinol” o’r Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2006 (“Rheoloiadau 2026”) a thrwy hynny wneud y ddarpariaeth yn barhaol.

Diwygiodd Rheoliadau 2026 Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”) drwy ychwanegu dosbarthiadau cymhwysedd cyffredinol a fydd yn hepgor y prawf preswylio arferol i unrhyw un a fyddai fel arall yn gymwys ar gyfer dyraniad tai neu gymorth ar gyfer digartrefedd yng Nghymru. Mae hyn yn galluogi dinasyddion Prydeinig, aelodau cymwys o'r teulu, a phobl sydd â chaniatâd i aros nad ydynt yn destun unrhyw ddefnyddio arian cyhoeddus neu ymrwymiad cynnal a chadw parhaus, i gael mynediad at ddyraniad tai a chymorth digartrefedd yng Nghymru wrth ddychwelyd o wledydd sy'n destun cyngor ‘gadael nawr' neu wacáu Llywodraeth Ei Fawrhydi (“HMG”).  Nid yw’r rheoliadau yn cael effaith ar statws mewnfudo ac ond yn berthnasol i bobl sydd ddim yn destun rheolaeth fewnfudo, a’r rhai sydd â’r hawl i aros o dan amodau penodol.

Daeth Rheoliadau presennol 2026 i rym ar 30 Mawrth 2026 ac maent yn cynnwys cymal machlud o flwyddyn. Mae hyn yn golygu y bydd y ddarpariaeth argyfwng cyffredinol yn Rheoliadau 2026 yn peidio â chael effaith ar 30 Mawrth 2027 oni bai bod rheoliadau pellach yn cael eu gwneud.

Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn ynghylch a ddylid gwneud Rheoliadau 2026 yn barhaol. Byddai hyn yn creu mecanwaith sefydlog o fewn y fframwaith cymhwysedd tai ar gyfer argyfyngau yn y dyfodol pan fydd Llywodraeth Ei Fawrhydi yn rhoi cyngor “gadael nawr” neu yn gwacáu pobl sy’n dychwelyd o ardaloedd yr effeithir arnynt, yn hytrach na dibynnu ar welliannau pellach sydd wedi'u cyfyngu ar amser neu argyfwng penodol. Byddai hyn yn creu sicrwydd i awdurdodau lleol ac yn lleihau'r angen i ddiwygio Rheoliadau 2014 o argyfwng i argyfwng. Y diben yw sicrhau bod pobl gymwys sy'n dychwelyd i Gymru mewn amgylchiadau eithriadol yn gallu cael mynediad at ddyraniad tai a chymorth digartrefedd pan fydd ei angen arnynt.

Cynhelir yr ymgynghoriad am 12 wythnos rhwng 28 Medi a 18 Rhagfyr 2026.

Byddaf yn ystyried yr asesiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen â gwneud y newidiadau a wnaeth Rheoliadau 2026 yn barhaol.

Mae'r ymgynghoriad ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.