Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, caiff rheoliadau eu gosod yng Nghymru a Lloegr, a fydd yn sefydlu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer system statudol, unedig i archwilwyr meddygol annibynnol graffu ar yr holl farwolaethau yn y ddwy wlad, nad yw crwner yn ymchwilio iddynt. Daw'r rheoliadau hyn i rym ar 9 Medi 2024.

Bydd rôl statudol newydd archwilwyr meddygol – a'r gweithdrefnau newydd – yn cael effaith gadarnhaol ar deuluoedd ac ar wasanaethau iechyd yng Nghymru. 

Dyma rai o'r buddion disgwyliedig:

  • Bydd archwilydd meddygol yn craffu ar achos y farwolaeth a gofnodir ar dystysgrifau meddygol achos marwolaeth. Bydd hyn yn helpu i nodi patrymau a thueddiadau ac, yn ei dro, yn helpu i ganfod unrhyw arferion gwael neu hyd yn oed weithgarwch troseddol. 
  • Bydd tystysgrifau meddygol achos marwolaeth yn darparu gwybodaeth fwy cywir am achosion marwolaethau, gan arwain at gynllunio gwasanaethau iechyd yn well. 
  • Bydd gwybodaeth well ar gyfer llywodraethu clinigol a monitro iechyd yn cefnogi dysgu a gwella, a fydd yn helpu i wneud gwasanaethau iechyd yn fwy diogel. 
  • Bydd y broses ardystio marwolaethau yn haws i deuluoedd mewn profedigaeth ddeall a bydd yn agored ac yn dryloyw. Bydd hefyd yn darparu cyfleoedd i anwyliaid godi pryderon gydag archwilydd meddygol annibynnol am safon y gofal yn y cyfnod yn arwain at farwolaeth. Bydd cyfleoedd hefyd i archwilwyr meddygol roi sicrwydd bod y meddyg wedi sefydlu achos y farwolaeth yn gywir. 
  • Bydd atgyfeiriadau priodol i wasanaeth y crwner.

Caiff Rheoliadau Archwilwyr Meddygol (Cymru) 2024 eu gosod heddiw fel rhan o'r diwygiadau ehangach i ardystio marwolaethau sy'n cael eu cyflwyno yng Nghymru a Lloegr drwy Rheoliadau a osodir gan Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU, sef: 

  • Rheoliadau Tystysgrifau Meddygol Achos Marwolaeth 2024
  • Rheoliadau Archwilwyr Meddygol (Lloegr) 2024
  • Rheoliadau'r Archwilydd Meddygol Cenedlaethol (Swyddogaethau Ychwanegol) 2024

Nod diwygio'r broses ardystio marwolaethau a chyflwyno rôl statudol ar gyfer archwilwyr meddygol yw gwneud yn siŵr bod y system ar gyfer ardystio'r holl farwolaethau nad ydynt yn gofyn ymchwiliad gan grwner yn sicrhau bod craffu digonol i nodi ac atal gweithgarwch troseddol neu arferion gwael. Mae'n rhesymoli'r system bresennol, gan sicrhau bod lefel y craffu yn gymesur ac nad yw'n peri oedi gormodol i'r teulu mewn profedigaeth nac yn gosod beichiau gormodol ar ymarferwyr meddygol ac eraill sy'n ymwneud â'r broses. 

Ei nod yw darparu gweithdrefn gyffredin ar gyfer ardystio marwolaethau sy'n sicrhau'r un lefel o graffu a sicrwydd, ni waeth a yw teulu'n dewis claddu neu amlosgi. 

Mae adolygiad anstatudol presennol archwilwyr meddygol o achos y farwolaeth yn darparu mesurau diogelu ychwanegol i gynrychiolwyr yr ymadawedig. Mae'n rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau am y farwolaeth ac i fynegi pryderona all fod ganddynt mewn perthynas â gofal a thriniaeth eu hanwyliaid. Bydd archwilwyr meddygol, fel rhan o'u gwaith craffu, hefyd yn siarad â'r ymarferydd a fu'n gweini sy'n cwblhau'r Dystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth ac yn adolygu cofnod y claf.

Mae'r gwasanaeth archwilwyr meddygol yng Nghymru yn gweithredu'n annibynnol ar y GIG, fel y sefydliad sy'n darparu gofal. Mae'r tair elfen o graffu yn caniatáu i'r archwilydd meddygol ddeall a oes unrhyw ffactorau a all ddarparu adborth annibynnol a chynnar gwerthfawr i fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau a darparwyr gofal nad yw'n acíwt y GIG am faterion a all fod yn gysylltiedig â gofal cyn marwolaeth. Fel hyn, maent yn hyrwyddo dysgu a gwella yn y system iechyd. Yng Nghymru, mae archwilwyr meddygol yn ffordd arall i'r meddyg sy'n ardystio godi pryderon am ofal, y tu allan i'w sefydliadau eu hunain. 

Lluniwyd Asesiad Effaith Integredig Asesiad Effaith Integredig ar gyfer Rheoliadau Archwilwyr Meddygol (Cymru) 2024 a osodir heddiw.