Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yr wythnos diwethaf, cymeradwywyd Rheoliadau Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025 yn ffurfiol gan y Senedd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod Cymru yn arweinydd byd-eang ym maes polisi a deddfwriaeth iechyd cyhoeddus. Maent yn cyflwyno dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus penodol i gynnal Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd wrth wneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch sut i arfer eu swyddogaethau. 

Mae'r Rheoliadau yn gymwys i gyfanswm o 56 o sefydliadau, fel a ganlyn:

  • Gweinidogion Cymru
  • awdurdodau lleol yng Nghymru
  • cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021
  • Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru
  • Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
  • Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
  • Iechyd a Gofal Digidol Cymru
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru
  • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ar gyfer pob Parc Cenedlaethol yng Nghymru
  • Awdurdodau Tân ac Achub Cymru
  • Corff Adnoddau Naturiol Cymru
  • Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Cyngor Chwaraeon Cymru
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol Cymru
  • Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Awdurdod Cyllid Cymru
  • Trafnidiaeth Cymru (rhif y cwmni 09476013)
  • Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (rhif y cwmni 09341679)
  • Cymwysterau Cymru.

Diben y Rheoliadau yw hyrwyddo cysondeb a gwella ansawdd y broses o wneud penderfyniadau ar draws y cyrff cyhoeddus penodol hyn yng Nghymru, gan eu cynorthwyo i gyflawni eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Bydd asesiadau o'r effaith ar iechyd yn sicrhau bod effeithiau ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl yn cael eu hystyried yn gyson pan fydd sefydliadau'r sector cyhoeddus yn datblygu polisïau neu brosiectau newydd. Mae hyn yn cynnwys penderfyniadau a wneir mewn meysydd sy'n hysbys am eu heffaith ar ganlyniadau iechyd hirdymor megis tai, trafnidiaeth, addysg, cyflogaeth, diwylliant a'r amgylchedd.

Daw'r Rheoliadau i rym ar 6 Ebrill 2027. Bydd y cyfnod pontio hwn yn helpu'r cyrff cyhoeddus i baratoi ar gyfer rhoi'r Rheoliadau ar waith. Bydd canllawiau, hyfforddiant a chymorth ymarferol yn cael eu cydgysylltu gan Lywodraeth Cymru ac Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, y caiff ei chydnabod yn rhyngwladol am ei harbenigedd o ran cyflawni Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd.