Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle, Y Dirprwy Brif Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau’r Senedd yn dymuno bod yn ymwybodol fy mod wedi rhoi cydsyniad i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.

Ceisiwyd cytundeb gan Jo Churchill AS (yr Is-ysgrifennydd Gwladol dros Atal, Iechyd Cyhoeddus a Gofal Sylfaenol) i wneud Offeryn Statudol (OS) o’r enw Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Diwygiadau Amrywiol) 2022 sy’n nodi darpariaethau a fydd yn gymwys o ran Prydain Fawr. Gwnaed yr OS â’r teitl uchod gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy arfer pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990([1]), Erthyglau 11(1)(b)(g), 16(1)(a) ac 16A(2) o Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o 12 Mehefin 2013 ynghylch bwyd a fwriedir ar gyfer babanod a phlant ifanc, bwyd at ddibenion meddygol arbennig, ac amnewid deiet yn llwyr er mwyn rheoli pwysau ([2]) a rheoliad 2(2) o Reoliadau Maeth (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019([3]) ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill. Diwygiodd yr OS y ddeddfwriaeth ganlynol i wneud newidiadau yng Nghymru a Lloegr.

  • Rheoliadau Maeth (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019 (OS 2019/651) fel y’u diwygiwyd,
  • Rheoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o 12 Mehefin 2013 ynghylch bwyd a fwriedir ar gyfer babanod a phlant ifanc, bwyd at ddibenion meddygol arbennig, ac amnewid deiet yn llwyr er mwyn rheoli pwysau a diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 92/52/EEC, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 96/8/EC, 1999/21/EC, 2006/125/EC a 2006/141/EC, Cyfarwyddeb 2009/39/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliadau’r Comisiwn (EC) Rhif 41/2009 ac (EC) Rhif 953/20091],
  • Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/127 o 25 Medi 2015 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran cyfansoddiad a gwybodaeth ar gyfer fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol ac ynghylch gofynion o ran gwybodaeth sy’n ymwneud â bwydo babanod a phlant ifanc1, a
  • Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/128 o 25 Medi 2015 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran cyfansoddiad a gwybodaeth ar gyfer bwyd at ddibenion meddygol arbennig.

Mae’r diwygiadau hyn yn:

  • diweddaru’r uned fesur a ddefnyddir ar gyfer copr mewn atchwanegiadau bwyd
  • diweddaru’r uned fesur a ddefnyddir ar gyfer sinc mewn atchwanegiadau bwyd
  • diweddaru’r ffurfiau o niasin a ganiateir i’w defnyddio wrth weithgynhyrchu atchwanegiadau bwyd i gynnwys nicotinamid ribosid clorid
  • diweddaru’r ffurfiau o fagnesiwm a ganiateir i’w defnyddio wrth weithgynhyrchu atchwanegiadau bwyd i gynnwys magnesiwm citrad malad
  • diweddaru’r ffurfiau o ffolad a ganiateir i’w defnyddio wrth weithgynhyrchu fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol i gynnwys calsiwm L-methylffolad
  • diweddaru’r ffurfiau o ffolad a ganiateir i’w defnyddio wrth weithgynhyrchu bwydydd proses sydd wedi’u seilio ar rawn a bwydydd babanod i gynnwys calsiwm L-methylffolad
  • safoni’r diffiniad o weddillion plaladdwyr a ddefnyddir yn y rheoliadau ar fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol a
  • safoni’r diffiniad o weddillion plaladdwyr a ddefnyddir yn y rheoliadau ar fwyd at ddibenion meddygol arbennig a ddatblygir i fodloni gofynion maethol babanod a phlant ifanc.

Gosodwyd y rheoliadau gerbron Senedd y DU ar (13 Ionawr) i ddod i rym ar 10 Chwefror 2023, ac eithrio’r diwygiad i ddiweddaru’r uned fesur a ddefnyddir ar gyfer copr mewn atchwanegiadau bwyd, a ddaw i rym ar 10 Awst 2024 i ganiatáu cyfnod pontio 18 mis.

([1])    1990 p.16. Diwygiwyd adran 16(1) gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Deddf 1999”)  a pharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 iddi. Diwygiwyd adran 48 gan adran 40(1) o Ddeddf 1999 a pharagraffau 7 ac 8 i Atodlen 5 iddi. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([2])    EUR 2013/609, a ddiwygiwyd gan EUR 2017/1091, O.S. 2019/651 ac O.S. 2020/1476.

([3])    O.S. 2019/651, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1476.

[1] Rheoliad yr UE a ddargedwir fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Maeth (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019 a 2020