Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, mae Rheoliadau Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2015 wedi’u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.  

Mae disgwyl i'r Rheoliadau ddod i rym ar 1 Hydref 2015, ac maent yn gwneud darpariaeth ar gyfer ymgynghoriad gan Awdurdodau Lleol (h.y. Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol, Cynghorau Cymuned a Chynghorau Tref ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru) cyn gwneud penderfyniad terfynol i gael gwared ar gae chwarae. Bydd hyn yn sicrhau bod Awdurdod Lleol yn hollol ymwybodol o farn y gymuned wrth wneud penderfyniad i gael gwared ar gae chwarae. Yn ogystal â hynny, mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i benderfyniad yr Awdurdod, a'r rhesymau drosto, gael ei gyhoeddi fel bod y broses gwneud penderfyniadau yn un dryloyw.

Caiff Canllawiau Statudol eu cyhoeddi i Awdurdodau Lleol.