Llyr Gruffydd AS, Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Heddiw, rwyf wedi gosod Reoliadau i gynyddu maint lleiaf cregyn y brenin a chwiniaid y gellir eu cymryd yn gyfreithlon o foroedd Cymru o 1 Tachwedd 2026.
Dyma gam cyntaf tuag at foderneiddio'r broses o reoli cregyn bylchog yng Nghymru. Bydd cynyddu meintiau cyfreithlon lleiaf dalfeydd yn caniatáu i ragor o gregyn bylchog aeddfedu, silio a chyfrannu at stociau yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynyddu gwydnwch stociau cregyn bylchog ac yn darparu mwy o gyfleoedd economaidd i ddiwydiant pysgota Cymru. Bydd y newidiadau hefyd yn darparu rheolau clir a chyson i bysgotwyr ac asiantaethau gorfodi ym mharth Cymru.
Roedd y penderfyniad yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru a gasglwyd gan Brifysgol Bangor ac a ddatblygwyd drwy ymgynghori a chydweithio â physgotwyr ac ystod amrywiol o randdeiliaid.
Mae'r Rheoliadau hyn yn cyd-fynd â pholisïau yn y cynllun rheoli pysgodfeydd sy'n ymwneud â chregyn y brenin yng Nghymru a Lloegr i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor stociau. Bwriedir gwneud rhagor o waith i gefnogi'r Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030 ac amcanion llesiant i greu Cymru wledig gryfach a mwy gwydn.
