Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Rwyf wedi rhoi cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud a gosod Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (Diwygio etc) 2025 ("y Rheoliadau") (dolen allanol).
Mae'r Rheoliadau yn gorgyffwrdd â pholisïau datganoledig a byddant yn gymwys i Gymru. Mae'r Rheoliadau yn gymwys mewn perthynas â Chymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon.
Mae'r Rheoliadau wedi cael eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig drwy arfer pwerau a roddir gan Ddeddf yr Amgylchedd 2021.
Mae'r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff 2013 sy'n ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr cyfarpar trydanol ac electronig sy'n gosod cyfarpar electronig ar y farchnad gyrraedd targedau adfer ac ailgylchu. Rhaid i gynhyrchwyr cyfarpar electronig helpu i ariannu gwaith casglu, trin, adfer, ailddefnyddio, ailgylchu, a gwaredu cyfarpar electronig gwastraff trwy ddulliau amgylcheddol cadarn.
Mae Rheoliadau 2025 wedi'u cynllunio i drwsio dau ddiffyg a gydnabyddir yn eang i'r drefn bresennol ledled y DU drwy:
- Osod rhwymedigaethau newydd ar farchnadoedd ar-lein fel eu bod yn cyfrannu at gost casglu, trin, ailddefnyddio ac ailgylchu cyfarpar electronig gwastraff yn unol â'r rhwymedigaethau hynny sy'n berthnasol ar hyn o bryd i gwmnïau a ddiffinnir fel cynhyrchwyr o fewn y rheoliadau presennol. Bydd y gofynion newydd yn berthnasol i farchnadoedd ar-lein mewn perthynas â chyfarpar a osodir ar farchnad y DU gan eu gwerthwyr tramor yn unig.
- Creu categori newydd o gyfarpar ar gyfer fêps i sicrhau bod costau casglu a thrin yr eitemau hyn yn cael eu talu gan y rhai sy'n eu rhoi ar y farchnad yn unig.
Polisi Llywodraeth Cymru fel arfer yw deddfu dros Gymru ar faterion o fewn cymhwysedd datganoledig, ond o dan rai amgylchiadau, mae manteision i Gymru gydweithio â Llywodraeth y DU pan fo sail resymegol glir dros wneud hynny. Yn yr achos hwn, bydd y Rheoliadau ar gyfer y DU gyfan yn galluogi cysondeb ledled y DU tra'n galluogi Cymru i gyflawni'r ymrwymiadau yn ein strategaeth economi gylchol Mwy nag Ailgylchu a chynnal a datblygu ar ein perfformiad fel ail yn y byd ar gyfer ailgylchu. Yn ei dro, bydd hyn yn hwyluso'r broses o gyflawni canlyniadau cadarnhaol i Gymru drwy ganiatáu dull unffurf ymhlith sefydliadau masnachol wrth iddynt fuddsoddi, yn aml mewn gweithrediadau ar draws marchnad y DU. Felly, mae'n briodol bod y Rheoliadau yn cael eu gwneud ar sail y DU gyfan yn yr achos hwn.
Cafodd y Rheoliadau eu gosod gerbron Senedd y DU ar 4 Mehefin 2025. Maent i'w trafod yn Nau Dŷ'r Senedd ac os cymeradwyir y rheoliadau, byddant yn dod i rym ar 11 Awst.