Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Mehefin 2021, cyhoeddais ymgynghoriad ar Reoliadau drafft i’w gwneud o dan adran 30(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (‘Deddf 2021’). Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu’r cymwysterau mae’n rhaid i glerc cyngor cymuned feddu arnynt er mwyn bodloni un amod o blith tri i gyngor allu pasio penderfyniad i fod yn gyngor cymuned cymwys at ddibenion arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol. Dyma’r amodau eraill y mae’n rhaid i gyngor eu bodloni i fod yn gynghor cymuned cymwys:

  • Mae o leiaf ddwy ran o dair o holl aelodau'r cyngor wedi'u datgan yn etholedig, boed hynny mewn etholiad cyffredin neu mewn is-etholiad;
  • mae'r cyngor wedi derbyn barn archwilydd ddiamod gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, am ddwy flynedd ariannol yn olynol. Rhaid bod barn ddiamod ddiweddaraf yr Archwilydd wedi dod i law yn ystod y 12 mis cyn y diwrnod y bydd y cyngor yn pasio penderfyniad i fod yn gymwys.

Rwy’n ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i ymateb i’r ymgynghoriad ffurfiol. Mae dadansoddiad o’r ymatebion i’r ymgynghoriad wedi ei gwblhau ac mae crynodeb wedi’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Yn dilyn yr ymgynghoriad ffurfiol hwn, mae’n bleser gennyf gadarnhau wrth yr Aelodau fy mod wedi gosod y Rheoliadau Cynghorau Cymuned Cymwys (Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol) (Cymwysterau Clercod) (Cymru) 2021 gerbron y Senedd, gyda dyddiad iddynt ddod i rym ar 5 Mai 2022.

Nid yw'r Rheoliadau wedi newid o'r drafft a gyhoeddwyd ar gyfer yr ymgynghoriad. Roedd y mwyafrif o’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad yn cytuno y byddai’r cymwysterau a bennir yn y Rheoliadau drafft yn sicrhau hyder bod y clerc yn meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth graidd i gefnogi cyngor cymuned i arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol. Mae gan y prif gyrff sy’n cynrychioli’r sector hyder amlwg bod y Dystysgrif mewn Gweinyddiaeth Cynghorau Lleol yn darparu’r hyfforddiant ardystiedig sy’n benodol i’r sector ar gyfer clercod, gan sicrhau eu bod yn gallu cefnogi eu cyngor.

Er bod rhai o’r ymatebwyr i’r ymgynghoriad wedi awgrymu cymwysterau eraill y dylid eu hystyried i’w cynnwys yn y rheoliadau, nid oedd cefnogaeth amlwg i gymwysterau eraill. Mae’r cymwysterau eraill hyn a gynigiwyd gan ymatebwyr yn amrywio o ran pa mor berthnasol ydynt i’r sector. Awgrymodd rhai ymatebwyr hefyd y dylid ystyried profiad mewn rôl clerc. Er fy mod yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r profiad hwn, nid wyf o’r farn y gellid ei fesur mewn modd gwrthrychol er mwyn sicrhau bod clercod yn gymwys i gefnogi cyngor i arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol.

Yn ystod yr ymgynghoriad, daethom yn ymwybodol o fater yn ymwneud â'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer CiLCA. Roeddem wedi deall bod cefnogaeth ddwyieithog lawn ar gael er mwyn hyfforddi a dilyn y cwrs yng Nghymru. Er nad yw hyn yn wir ar hyn o bryd am bob agwedd ar y cwrs CiLCA, rydym yn gweithio gyda Chymdeithas Clercod Cynghorau Lleol a phartneriaid i sicrhau darpariaeth ddwyieithog ac i sicrhau bod profiad clerc sy'n ymgymryd â CiLCA yr un fath, p'un a ydynt yn dilyn y cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.