Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau o'r Senedd am wybod ein bod yn rhoi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig o ran Cymru.

Gofynnodd y Gweinidog dros Nawdd Cymdeithasol ac Anabledd, Syr Stephen Timms, am gytundeb i wneud Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol (Cyfnodau Diogelu Data) (Diwygio) 2025 (‘y Rheoliadau’). Mae'r Rheoliadau'n gymwys i Gymru, Lloegr a'r Alban.

Mae'r Rheoliadau yn diwygio erthygl 95(5) o Reoliad (EU) Rhif 528/2012 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn ymwneud â rhoi cynhyrchion bioleiddiadol ar y farchnad a'r defnydd ohonynt (“Rheoliad Cynhyrchion Bioleiddiadol Prydain Fawr” neu “GB BPR”). Maent yn ymestyn y dyddiad a nodir yn erthygl 95(5) o GB BPR pryd y daw'r cyfnod diogelu data i ben ar gyfer y cyfuniadau o sylweddau actif/mathau o gynnyrch hynny a restrir yn Atodiad 2 i Reoliad (EU) Rhif 1062/2014 lle nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto. Mae'r dyddiad yn cael ei ymestyn am bum mlynedd o 31 Rhagfyr 2025 i 31 Rhagfyr 2030. 

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau i baragraffau 3 a 5 o erthygl 95 i ddiweddaru'r cyfeiriadau at Reoliad (EC) Rhif 1451/2007 i Reoliad (EU) Rhif 1062/2014, a'i disodlodd.

Yn rhinwedd erthygl 95(5) o GB BPR, bydd y cyfnod diogelu data ar gyfer oddeutu 300 o gyfuniadau o sylweddau actif/mathau o gynnyrch sydd wedi'u cynnwys yn Rhaglen Adolygu Prydain Fawr o sylweddau actif presennol, ond nad oes penderfyniad wedi'i wneud ynghylch eu cymeradwyo eto, yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2025. Byddai hyn yn golygu na fyddai'r data'r sylweddau actif hynny nad ydynt eto wedi'u hadolygu yn cael eu diogelu ar ôl yr amser hwnnw.

O ganlyniad, ni fyddai gweithgynhyrchwyr sylweddau actif na'r rheini sy'n cefnogi eu cymeradwyo yn gallu codi tâl mwyach ar gwmnïau eraill am ddefnyddio eu data ar ôl 31 Rhagfyr 2025, gan eu rhwystro rhag adennill costau comisiynu'r data. Er bod canlyniadau peidio â diwygio erthygl 95(5) yn anodd eu rhag-weld, mae risg sylweddol y byddai'n arwain at gwmnïau yn tynnu eu sylweddau actif yn ôl o farchnad Prydain Fawr oherwydd nad ydynt bellach yn ariannol hyfyw. Byddai hyn yn cael sgil effeithiau ar y sectorau rheoli plâu, cludiant a thrin dŵr a gallai gynyddu risgiau o ran iechyd a diogelwch y cyhoedd.  

Mae erthygl 60 o GB BPR yn darparu, pan fo data wedi'u diogelu o dan GB BPR, unwaith y bydd y cyfnod diogelu hwnnw wedi dod i ben, ni ellir diogelu'r data eto. Rhag i gyfnod diogelu data sylweddau actif a gwmpesir ddod i ben, mae'r cyfnod yn erthygl 95(5) o GB BPR yn cael ei ymestyn o bum mlynedd hyd at 31 Rhagfyr 2030. 

Yn unol â GB BPR, gofynnodd yr Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion Cymru a'r Alban am eu cydsyniad i'r Rheoliadau. 

Er mai egwyddor gyffredinol Llywodraeth Cymru yw y dylai'r cyfreithiau sy'n ymwneud â materion datganoledig gael eu gwneud yng Nghymru, yn yr achos hwn ystyrir ei bod yn briodol i'r Ysgrifennydd Gwladol ddeddfu ar sail Prydain Fawr, gan nad oes gan Weinidogion Cymru y pwerau i wneud y Rheoliadau ac mae dull gweithredu ar lefel Prydain Fawr gyfan yn sicrhau gweithredu amserol a pharhad polisi.

Mae'r Rheoliadau'n ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol, ac fe'u gosodwyd gerbron Senedd y DU ar 26 Tachwedd 2025. Nid oes gwahaniaeth polisi rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch y mater hwn ac mae'r Rheoliadau'n diwygio deddfwriaeth na chafodd ei gwneud yn ddwyieithog. Nid yw'r Rheoliadau yn effeithio ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd na chymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru.

Mae'r Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n rhoi'r manylion am darddiad, diben ac effaith y diwygiadau, ar gael yma: 

The Biocidal Products (Data Protection Periods) (Amendment) Regulations 2025

The Biocidal Products (Data Protection Periods) (Amendment) Regulations 2025 - Explanatory Memorandum