Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau o'r Senedd am wybod ein bod yn rhoi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig o ran Cymru.

Ceisiwyd cytundeb gan y Farwnes Hayman, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, i wneud Offeryn Statudol (OS) o'r enw Rheoliadau Cynhyrchu Organig (Diwygio) 2025 i'w gymhwyso mewn perthynas â Phrydain Fawr. 

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud yr OS a nodir uchod drwy arfer pwerau a roddir gan Erthygl 22(2)(b) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 834/2007 ar gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig, gan eu bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau mynediad at fwyd anifeiliaid, hadau a deunydd lluosogi llystyfiant, anifeiliaid byw a mewnbynnau fferm eraill,  lle nad yw mewnbynnau o'r fath ar gael ar y farchnad ar ffurf organig. 

Mae erthygl 38a(3) yn darparu y gall Gweinidogion Cymru roi eu caniatâd i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau mewn perthynas â Chymru.

Mae Rheoliad yr UE a Ddargedwir Rhif 889/2008 yn caniatáu rhoi rhanddirymiadau ag iddynt derfyn amser ar gyfer defnyddio cywennod anorganig (ieir ifanc) yn y broses o gynhyrchu wyau yn organig, defnyddio gwm gellan anorganig mewn cynhyrchu organig a chynnwys hyd at 5% o fwyd anifeiliaid protein anorganig ar gyfer moch a dofednod. 

Er bod y Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn maes o fewn cymhwysedd datganoledig, mae’r rheoliadau hyn yn ddibwys ac yn sicrhau cysondeb ar gyfer cynhyrchwyr ledled y cenhedloedd. Felly, mae'n fanteisiol cyflwyno OS ar gyfer Prydain Fawr gyfan ar yr achlysur hwn. 

Bydd y rheoliadau hyn yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2025, er mwyn caniatáu i'r darpariaethau trosiannol presennol ar gyfer Safonau Marchnata a Chynhyrchion Organig gael eu hymestyn hyd at 31 Rhagfyr 2026.

Gosodwyd y Rheoliadau gerbron Senedd y DU ar 22 Hydref 2025 a byddant yn dod i rym ar 1 Ionawr 2026.