Neidio i'r prif gynnwy

Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ddydd Mawrth, pleidleisiodd yr Aelodau o blaid Rheoliadau Cynllun Cymorth Ariannol Etholiadau Cymreig (Ymgeiswyr Anabl) 2025. Mae hwn yn gam pwysig wrth gyflawni dyletswydd Gweinidogion Cymru o dan Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 i ddarparu ar gyfer gweithredu cynllun cymorth ariannol i helpu ymgeiswyr mewn etholiadau yng Nghymru i oresgyn rhwystrau sy'n eu hatal rhag cymryd rhan. 

Gan gydnabod bod ymgeiswyr anabl yn aml yn wynebu costau anochel ychwanegol - megis trafnidiaeth hygyrch, offer arbenigol, neu gymorth personol - nod y cynllun yw cael gwared ar rwystrau a hyrwyddo cyfle cyfartal.Mae'r rheoliadau hyn a'r cynllun sy’n cael ei sefydlu o ganlyniad iddo, yn cyd-fynd â'n Cynllun Hawliau Pobl Anabl draft ar gyfer 2025 i 2035, sy’n destun ymgynghori ar hyn o bryd.

Dyma rai o brif nodweddion y cynllun:

  • Gweinyddiaeth Annibynnol: Bydd y cynllun yn cael ei weithredu gan Anabledd Cymru, gan sicrhau ei fod yn ddiduedd ac yn gyfrinachol.
  • Model Cymdeithasol o Anabledd: Bydd y dull gweithredu hwn yn llywio'r math o gymorth a gynigir, gan ganolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau yn hytrach na diffinio cyfyngiadau.
  • Cymorth Cynhwysfawr: O nodi anghenion i ariannu addasiadau a gymeradwywyd, bydd y cynllun yn cynorthwyo ymgeiswyr trwy gydol cyfnod yr etholiad - o'r enwebiad i gyhoeddi'r canlyniadau.

Mae'r cynllun yn agor ar gyfer ceisiadau ar 1 Medi 2025, ac mae'n cynnwys:

  1. Help i nodi'r cymorth angenrheidiol.
  2. Cymorth i gwblhau ceisiadau.
  3. Asesiad teg o geisiadau i sicrhau tegwch.
  4. Darparu cyllid neu wasanaethau cymeradwy.

Mae'r fenter hon yn adlewyrchu ymrwymiad a rennir i chwalu rhwystrau a sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i gymryd rhan lawn mewn bywyd cyhoeddus. Anogir yr Aelodau i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r cynllun er mwyn i gynifer o unigolion cymwys â phosibl allu manteisio arno.