Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Bydd Aelodau'r Senedd yn dymuno cael gwybod fy mod wedi rhoi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Seneddol, Swyddfa'r Cabinet arfer pŵer gwneud is-ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig mewn perthynas â Chymru. Mae'r caniatâd hwn yn ymwneud yn benodol â chynnwys trefniadau trosiannol yn offeryn statudol Llywodraeth y DU, o'r enw Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cytundebau Rhyngwladol Penodedig) (Diwygio) 2026.
Ceisiodd yr Ysgrifennydd Seneddol, Swyddfa'r Cabinet gytundeb i gynnwys Trefniadau Trosiannol yn Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cytundebau Rhyngwladol Penodedig) (Diwygio) 2025 a fydd yn diwygio Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2024 ("Rheoliadau 2024 y DU") i ymdrin â threfniadau trosiannol ar gyfer Contractau sy'n parhau i fod yn ddarostyngedig i'r Gyfundrefn Gaffael flaenorol (e.e. Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 a Rheoliadau Contractau Cyfleustodau 2016).
Gan nad oes gan Weinidogion Cymru'r pŵer i ddiwygio'r darpariaethau cychwynnol a throsiannol hyn, mae angen cydsyniad i Lywodraeth y DU ddeddfu yn y maes datganoledig hwn. Bydd hyn yn sicrhau bod contractau a oedd yn dod o dan y drefn flaenorol yn parhau i gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol y DU o dan y Cytundeb Economaidd a Masnachu Cynhwysfawr rhwng y DU ac India .
Mae Offeryn Statudol y DU hefyd yn cynnwys rheoliadau sy'n ymwneud â chontractau sy'n dod o dan Ddeddf Caffael 2023. Bydd Gweinidogion Cymru yn gosod rheoliadau ar wahân i weithredu penodau caffael Cytundeb Economaidd a Masnach Gynhwysfawr (CETA) y DU ac India fel y maent yn gymwys yng Nghymru.
Gosodwyd Offeryn Statudol y DU gerbron Senedd y DU gan Weinidog Swyddfa'r Cabinet ar 19 Ionawr 2026 ac roedd yr elfen sy'n ymwneud â Chontractau o dan y drefn gaffael flaenorol yn arfer y pŵer a roddwyd gan adran 127(2) o Ddeddf Caffael 2023, y gellir ond ei arfer gan Weinidog y Goron. Daw'r Offeryn Statudol i rym ar 30 Mawrth 2026.
Mae'r Rheoliadau ar gael yma: Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cytundebau Rhyngwladol Penodedig a Darpariaeth Arbed) (Diwygio) 2026
