Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau'r Senedd am wybod fy mod wedi rhoi cydsyniad i'r Gweinidog Hawliau Cyflogaeth, Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn yr Adran Fusnes a Masnach arfer pŵer gwneud is-ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig mewn perthynas â Chymru.

Gofynnwyd am gytundeb gan y Gweinidog Hawliau Cyflogaeth, Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn yr Adran Fusnes a Masnach i wneud Offeryn Statudol (OS) o'r enw Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygio Canlyniadol) 2025. 

Gosodwyd yr OS uchod gerbron Senedd y DU gan y Gweinidog Gwladol dros Fenter, Marchnadoedd a Busnesau Bach ar 27 Ionawr drwy arfer pwerau a roddwyd gan Adran 19(1) o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ("Deddf REUL").

Nod yr OS yw sicrhau eglurder a hygyrchedd cyfreithiol trwy wneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â "chymhathu" cyfraith yr UE a ddargedwir ar ddiwedd 2023 o dan Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023. Gosodwyd yr OS gerbron Senedd y DU ar 27 Ionawr gyda dyddiad cychwyn o 27 Chwefror 2025.

Unrhyw effaith y gall yr offeryn ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru:

Nid yw'r Rheoliadau yn lleihau nac yn tanseilio pwerau Gweinidogion Cymru mewn unrhyw ffordd, ac nid ydynt yn creu, yn diwygio nac yn dileu unrhyw rai o swyddogaethau Gweinidogion Cymru. Nid yw'r Rheoliadau'n diwygio offerynnau a wneir o dan Ddeddfau Senedd Cymru.

Hoffwn sicrhau'r Senedd mai polisi Llywodraeth Cymru fel arfer yw deddfu dros Gymru ar faterion sydd o fewn ei chymhwysedd datganoledig. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, mae manteision i gydweithio â Llywodraeth y DU pan fo sail resymegol glir dros wneud hynny. Ar yr achlysur hwn, felly, rwy'n rhoi fy nghydsyniad i'r Rheoliadau hyn am resymau'n ymwneud â hygyrchedd,  effeithlonrwydd, cydgysylltiad trawslywodraethol a chysondeb. 

Mae'r Rheoliadau i'w gweld yma. The Retained EU Law (Revocation and Reform) Act 2023 (Consequential Amendments) Regulations 2025