Mabon ap Gwynfor AS, Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Bydd Aelodau'r Senedd yn dymuno gwybod fy mod wedi rhoi cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud rheoliadau (Saesneg yn unig) o dan Ddeddf Hyfforddiant Meddygol (Blaenoriaethu) 2026 sy'n ymwneud â recriwtio i raglenni hyfforddiant meddygol arbenigol ar gyfer cylch recriwtio 2027. Mae cydsyniad hefyd wedi'i roi gan Lywodraeth yr Alban a Llywodraeth Gogledd Iwerddon.
Mae'r rheoliadau'n cael eu gwneud o dan bwerau a geir yn Neddf Hyfforddiant Meddygol (Blaenoriaethu) 2026 a byddant yn gymwys ledled y DU. Bydd y rheoliadau'n parhau, am gyfnod pellach o 12 mis, â'r trefniadau interim a ddefnyddiwyd ar gyfer cylch recriwtio 2026 tra bod rhagor o waith datblygu polisi, casglu tystiolaeth, dadansoddi cydraddoldeb ac asesu cyfreithiol yn cael ei gynnal ar draws y pedair gwlad.
Nid yw'r rheoliadau hyn yn newid pwerau Gweinidogion Cymru o dan y Ddeddf. Bydd Gweinidogion Cymru yn parhau i allu gwneud rheoliadau mewn perthynas â Chymru yn y dyfodol a phennu'r dull tymor hwy sydd fwyaf priodol i Gymru.
Trosolwg o'r Rheoliadau
Sefydlodd Deddf Hyfforddiant Meddygol (Blaenoriaethu) 2026 fframwaith statudol ar gyfer blaenoriaethu ymgeiswyr i raglenni hyfforddiant meddygol ôl-raddedig pan fo mwy o alw am leoedd nag sydd ar gael. Mae'r Ddeddf hefyd yn darparu pwerau i gategorïau ychwanegol o ymgeiswyr gael eu blaenoriaethu drwy reoliadau.
Ar gyfer cylch recriwtio 2026, defnyddiwyd statws mewnfudo fel procsi interim i gefnogi gweithredu'r Ddeddf tra bod tystiolaeth yn cael ei chasglu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn cael ei gynnal i lywio dull tymor hwy. Mae dadansoddiad o'r dystiolaeth a gafwyd wedi nodi nifer o ystyriaethau polisi, gweithredol, cyfreithiol a chydraddoldeb cymhleth sy'n gofyn am ragor o waith cyn y gellir penderfynu ar ddull parhaol.
Felly, bydd y rheoliadau'n cynnal y trefniadau interim presennol ar gyfer cylch recriwtio 2027. Bydd hyn yn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i ymgeiswyr, cyflogwyr, cyrff hyfforddi a gweinyddwyr tra bod rhagor o waith yn cael ei gwblhau.
Pam y rhoddwyd cydsyniad
Egwyddor gyffredinol Llywodraeth Cymru yw mai Senedd Cymru, fel deddfwrfa genedlaethol Cymru, ddylai wneud deddfau ar faterion o fewn ei chymhwysedd deddfwriaethol ac y dylai pwerau gweithredol mewn meysydd datganoledig gael eu harfer gan Weinidogion Cymru. Fodd bynnag, gall fod amgylchiadau pan fydd er budd Cymru i ddeddfwriaeth y DU wneud darpariaeth mewn meysydd datganoledig, gyda'r cydsyniad priodol a'r diogelwch datganoli angenrheidiol. Ar yr achlysur hwn, deuthum i'r casgliad ei bod yn briodol rhoi cydsyniad i ddull gweithredu ledled y DU.
Caiff recriwtio i raglenni hyfforddiant meddygol arbenigol ei ddarparu drwy system recriwtio ganolog ledled y DU ar ran pob un o'r pedair gwlad. Bydd cynnal dull cyson ar gyfer cylch recriwtio 2027 yn cefnogi gweithrediad effeithiol y system honno ac yn darparu eglurder i ymgeiswyr a chyflogwyr.
Mae'r amserlenni sy'n gysylltiedig â chylch recriwtio 2027 yn golygu nad oes digon o amser i ddatblygu, asesu a gweithredu dull penodol i Gymru cyn i'r broses recriwtio ddechrau. Mae'r trefniadau interim hefyd yn seiliedig ar statws mewnfudo, nad yw'n fater datganoledig ac a weinyddir ar sail ledled y DU.
Felly, bydd dull dros dro a chyfyngedig o ran amser ledled y DU yn darparu parhad ar gyfer recriwtio wrth ganiatáu i ragor o waith gael ei wneud ar faterion allweddol, gan gynnwys ymdrin â gwaith llai na llawnamser, absenoldeb statudol, profiad a gafwyd mewn lleoliadau sy'n gysylltiedig â'r GIG, effeithiau cydraddoldeb a goblygiadau ehangach i'r gweithlu.
Mae'r dull hwn yn galluogi rhagor o dystiolaeth i gael ei chasglu, asesiadau effaith i gael eu cynnal a gwaith datblygu polisi i fynd rhagddo cyn gwneud penderfyniadau ynghylch trefniadau tymor hwy. Mae hefyd yn sicrhau bod Cymru yn cadw'r hyblygrwydd i bennu ei safbwynt polisi yn y dyfodol unwaith y bydd y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau a'r goblygiadau wedi'u hystyried yn llawn.
Rwy'n fodlon bod rhoi cydsyniad i'r rheoliadau hyn er budd gorau Cymru ac yn darparu'r dull mwyaf cymesur ac ymarferol ar gyfer cylch recriwtio 2027 tra bod gwaith datblygu polisi pellach yn cael ei wneud.
