Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau o'r Senedd yn dymuno gwybod fy mod wedi rhoi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.

Gosodwyd Offeryn Statudol (OS) y DU uchod gerbron Senedd y DU gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 21 Mai 2024 drwy arfer pwerau a roddir gan Ddeddf Ifori 2018 (“y Ddeddf”).

Mae OS y DU yn diwygio'r Ddeddf drwy estyn y gwaharddiad ar ifori eliffantod i gynnwys ifori o'r rhywogaethau canlynol hefyd: 

  • hipopotamws cyffredin (hippopotamus amphibius); 
  • lleiddiad (orcinus orca); 
  • morfil uncorn (monodon monoceros); a 
  • morfil sberm (physeter macrocephalus). 

Mae'n cynnwys cyfnod gras 28 diwrnod i brynwyr, gwerthwyr a llogwyr sydd wedi ymrwymo i gontract nad yw eto wedi'i gwblhau ar yr adeg y daw'r rheoliadau i rym.

Mae OS y DU hefyd yn diwygio Atodlen 1 (Sefydliadau Rhagnodedig) i Reoliadau Gwaharddiadau Ifori (Esemptiadau) (Proses a Gweithdrefn) 2022 i gywiro enwau rhai o'r sefydliadau a ragnodir o dan y Ddeddf. Mae Sefydliadau Rhagnodedig yn rhoi cyngor i'r Ysgrifennydd Gwladol ar geisiadau am dystysgrifau esemptio.

Mae OS y DU hefyd yn diwygio Rheoliadau Gwahardd Ifori (Sancsiynau Sifil) 2022 i nodi y bydd y dull a'r dyddiad cyflwyno ar gyfer hysbysiadau yn ymwneud ag ymgymeriadau gorfodi drwy'r post yn ystod y broses ddosbarthu arferol neu'n electronig ar y diwrnod yr anfonir y cyfathrebiad electronig.

Unrhyw effaith y gall yr offeryn ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru:

Nid yw OS y DU yn lleihau nac yn tanseilio pwerau Gweinidogion Cymru mewn unrhyw ffordd, ac nid yw'n creu, yn diwygio nac yn dileu unrhyw swyddogaethau a roddir i Weinidogion Cymru. 

Hoffwn sicrhau'r Senedd mai polisi Llywodraeth Cymru fel arfer yw deddfu dros Gymru ar faterion o fewn cymhwysedd datganoledig. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, mae manteision i gydweithio â Llywodraeth y DU pan fo sail resymegol glir dros wneud hynny. Mae'r DU wedi bod yn defnyddio dull gweithredu unffurf o ran y polisi hwn ers blynyddoedd lawer ac mae aliniad parhaus i sicrhau cysondeb yn hanfodol. 

Mae hyn yn adlewyrchu'r dull a ddefnyddir i alinio ar draws Prydain Fawr ar faterion ffiniau a masnach, ac mae'n sicrhau cysondeb i fasnachwyr a swyddogion gorfodi drwy osgoi unrhyw wahaniaeth anfwriadol o ran y cymhwyso. 

Gweinidogion Cymru yw'r ‘awdurdod cenedlaethol priodol’ o hyd ar gyfer rheoliadau sy'n gymwys i Gymru yn unig. 

Gosodwyd y Rheoliadau gerbron Senedd y DU ar 21 Mai a byddant yn dod i rym ar 1 Medi.