Lesley Griffiths AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Heddiw, rwy'n falch o osod rheoliadau i estyn y ddyletswydd datblygu cynaliadwy a llesiant (Rhan 2) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i wyth corff cyhoeddus arall:
- Cymwysterau Cymru,
- Gofal Cymdeithasol Cymru,
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru,
- Awdurdod Cyllid Cymru,
- Trafnidiaeth Cymru,
- Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol,
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru,
- Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Mae'r rheoliadau'n ychwanegu'r wyth corff cyhoeddus ychwanegol at adran 6(1) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gan eu gwneud yn ddarostyngedig i Ran 2 a 3 o'r Ddeddf. Mae'r rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ofynnol mewn perthynas ag adran 9 ac adran 15 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'r darpariaethau'n darparu bod rhaid i'r cyrff ychwanegol osod a chyhoeddi amcanion llesiant erbyn 31 Mawrth 2025 fan bellaf ac ymestyn cyfnod ymchwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru, mewn perthynas â'r cyrff ychwanegol.
Mae Memorandwm Esboniadol, gan gynnwys Asesiad Effaith Rheoleiddiol hefyd wedi’i osod, a chrynodeb o'r Asesiad Effaith Integredig wedi’i gyhoeddi ochr yn ochr â'r rheoliadau.
Mae'r ddyletswydd llesiant yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ymgymryd â gwaith datblygu cynaliadwy, sef y broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, gyda'r nod o gyflawni'r nodau llesiant fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Wrth wneud hynny, rhaid i gyrff cyhoeddus osod a chyhoeddi amcanion llesiant sydd wedi’u cynllunio i geisio sicrhau eu bod yn cyfrannu cymaint â phosibl at y gwaith o gyflawni pob un o’r nodau llesiant, ac yn cymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r amcanion hynny. Rhaid iddynt hefyd weithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy.
Yn amodol ar gael cymeradwyaeth y Senedd, bydd y rheoliadau'n ychwanegu'r cyrff cyhoeddus ychwanegol at adran 6(1) ar 30 Mehefin 2024, gan ddod â chyfanswm y cyrff cyhoeddus datganoledig o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i 56. Bydd cynnwys y cyrff cyhoeddus ychwanegol hyn yn cynyddu cwmpas ac ehangder yr agenda datblygu cynaliadwy yng Nghymru, sy'n ganolog i'r ffordd yr ydym yn gweithio yng Nghymru i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy.