Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gosodwyd Rheoliadau Deddf Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2024 ("y Rheoliadau") gerbron Senedd y DU ar 18 Ionawr 2024. 

Mae'r rheoliadau'n gwneud diwygiadau sy'n ganlyniad i Ddeddf Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) 2023 ac yn gwneud diwygiadau amrywiol i Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 mewn perthynas â rheoleiddio tai cymdeithasol yn Lloegr. Pwrpas y Rheoliadau yw rhoi effaith i'r diwygiadau i'r gyfundrefn reoleiddio ar gyfer tai cymdeithasol yn Lloegr a nodir yn Neddf 2023. 

Rwyf wedi gosod Memorandwm Esboniadol Offeryn Statudol mewn perthynas â'r rheoliadau hyn, o gofio bod tai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Rwyf wedi gosod y memorandwm yn unol â'r gofyniad o dan Reol Sefydlog 30A. Rwy'n ystyried bod y Rheoliadau'n offeryn statudol perthnasol gan eu bod yn gwneud darpariaethau o ran Cymru sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, nad yw'n ddarpariaeth ddeilliadol, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol, atodol nac arbed sy’n ymwneud â materion nad ydynt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.