Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gosodwyd Rheoliadau Deddf Ynni 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) 2024 ("y Rheoliadau") gerbron Senedd y DU ar 13 Mai 2024. 

Gwneir y rheoliadau hyn o dan adran 330 o Ddeddf Ynni 2023. Mae'r rhain yn bwerau galluogi nad oedd Senedd Cymru wedi cydsynio iddynt. Er hynny, nawr bod y darpariaethau hyn ar y llyfr statud rydym wedi ymrwymo i sicrhau eu bod yn cael eu harfer mewn ffordd gyfrifol. 

Mae'r rheoliadau'n gwneud diwygiadau sy'n ganlyniad i weithredu Deddf Ynni 2023.  Mae Deddf Ynni 2023 yn gwneud darpariaeth ynghylch cynhyrchu ynni a diogelu'r cyflenwad ynni, rheoleiddio'r farchnad ynni a sefydlu corfforaeth gyhoeddus annibynnol fydd yn gyfrifol am gynllunio rhwydweithiau trydan a nwy Prydain a gweithredu'r system drydan mewn perthynas â sefydlu Gweithredwr Cenedlaethol y System Ynni (NESO).  Pwrpas y Rheoliadau yw gwneud diwygiadau canlyniadol i weithredu Deddf 2023 ac yn benodol i sefydlu Gweithredwr Cenedlaethol y System Ynni (NESO) sy'n golygu gwneud un newid angenrheidiol i'r diffiniad o ddeiliaid trwydded yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.   

Bydd sefydlu NESO yn rhoi mwy o eglurder ar gyfer cynllunio'r rhwydweithiau trydan a nwy a gweithredu'r system drydan.  Mae'r diwygiad bach a chanlyniadol hwn yn angenrheidiol i egluro, mewn termau deddfwriaethol, pa rai o bwerau, hawliau a dyletswyddau ESO'r Grid Cenedlaethol a National Gas Transmission y bydd NESO yn eu hetifeddu neu ddim yn eu hetifeddu. Nid yw'n newid polisi mewn ffordd a fyddai'n effeithio ar feysydd datganoledig. 

Rwyf wedi gosod Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol mewn perthynas â'r rheoliadau hyn, gan fod y newid i Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, at ddibenion Rheol Sefydlog 30A, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru. Rwyf wedi gosod y memorandwm yn unol â'r gofyniad o dan Reol Sefydlog 30A. Rwy'n ystyried bod y rheoliadau'n offeryn statudol perthnasol gan eu bod yn gwneud darpariaethau o ran Cymru sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru, nad yw'n ddarpariaeth ddeilliadol, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol, atodol nac arbed sy’n ymwneud â materion nad ydynt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.