Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rheoliadau yn gysylltiedig â Theithio Rhyngwladol

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud darpariaeth yn y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021 a oedd yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”).

Mae'r newidiadau i'r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn golygu ei bod bellach yn ofynnol i deithwyr archebu a thalu am brofion coronafeirws ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8 ar ôl cyrraedd Cymru, os ydynt wedi teithio o wledydd nad ydynt wedi'u heithrio sydd y tu allan i'r ardal deithio gyffredin. Mae pobl hefyd bellach yn cael eu gwahardd rhag dod i mewn i Gymru o'r tu allan i'r ardal deithio gyffredin os ydynt wedi ymweld â gwlad rhestr goch yn ystod y 10 diwrnod diwethaf, oni bai eu bod yn bersonau eithriedig fel y nodir yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Daeth y cyfyngiadau ychwanegol hyn i rym ar 15 Chwefror 2021.

Heddiw, rwyf wedi gosod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021. Mae'n ofynnol i'r Rheoliadau hyn weithredu dyletswyddau cyfatebol ar weithredwyr. Byddant yn diwygio'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Bobl sy'n Teithio i Gymru ac ati) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion Cyn Gadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio).

Rheoliadau ar gyfer Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Bobl sy'n Teithio i Gymru ac ati) 2020 ("Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd") yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy'n dod o'r tu allan i'r ardal deithio gyffredin i faes awyr, heliport neu borthladd yng Nghymru ddarparu gwybodaeth ragnodedig am iechyd y cyhoedd i deithwyr sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny.  Mae'r wybodaeth hon yn ymwneud â mesurau sy'n cael eu cymryd yn y Deyrnas Unedig mewn ymateb i amlder a lledaeniad coronafeirws, gan gynnwys y mesurau sy'n ofynnol gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. 

Mae'r Rheoliadau a osodir heddiw yn diwygio Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i'w gwneud yn ofynnol i gwmnïau hysbysu teithwyr cyn iddynt deithio o'r ddyletswydd newydd i drefnu profion ar ôl cyrraedd yn unol â'r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Yn unol â'r diwygiadau, bydd gweithredwyr hefyd yn darparu gwybodaeth mewn perthynas â'r gofynion Cwarantîn a Reolir sy'n gymwys mewn mannau eraill yn y DU. Bydd yr wybodaeth ychwanegol hon wedi'i rhoi i deithwyr pan fyddant yn archebu lle, pan fyddant yn cyrraedd/“check-in” a 24 i 48 awr cyn teithio.  Mae'r rheoliadau a osodwyd heddiw hefyd yn diwygio'r cyhoeddiad a wneir yn ystod teithiau i Gymru fel bod teithwyr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cyfyngiadau iechyd cyhoeddus sy'n gymwys yng Nghymru.

Y Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr

Ar hyn o bryd, mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion Cyn Gadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 yn gosod rhwymedigaeth ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy'n dod i Gymru o'r tu allan i'r ardal deithio gyffredin i sicrhau bod teithwyr sy'n teithio ar y gwasanaethau hynny yn meddu ar ganlyniad negyddol i brofion coronafeirws.

Mae'r Rheoliadau a osodir heddiw yn diwygio'r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr drwy osod rhwymedigaethau ychwanegol ar weithredwyr.  Bydd hefyd yn ofynnol i weithredwyr sicrhau bod pobl sy'n cyrraedd Cymru o'r tu allan i'r Ardal Deithio Gyffredin ar wasanaeth trafnidiaeth fasnachol drwy borthladd môr, heliport neu faes awyr yng Nghymru, cyn iddynt gyrraedd Cymru, wedi gwneud trefniadau i gymeryd profion coronafeirws ar ddiwrnodau 2 ac 8 ar ôl iddynt gyrraedd Cymru.

Bydd hefyd yn ofynnol yn awr i weithredwyr gymryd camau rhesymol i sicrhau nad yw personau, nad ydynt yn bersonau sydd wedi'u heithrio, yn cyrraedd ar wasanaeth trafnidiaeth i borthladd yng Nghymru o'r tu allan i'r ardal deithio gyffredin os ydynt wedi bod mewn gwlad rhestr goch yn ystod y 10 diwrnod diwethaf.  Gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A i'r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yw gwlad rhestr goch. At ddibenion y rhwymedigaeth hon, mae gwasanaethau trafnidiaeth yn cynnwys nid yn unig wasanaethau teithwyr rhyngwladol ond hefyd deithiau hedfan preifat.  

Bydd yn drosedd i weithredwr dorri'r naill neu'r llall o'r rhwymedigaethau newydd hyn oni bai bod ganddo amddiffyniad fel y nodir yn y rheoliadau. Gellir cynnig hysbysiad cosb benodedig yn lle erlyniad am y troseddau hyn, a gosodir swm yr hysbysiad cosb benodedig ar £1,000 ar gyfer pob trosedd ar wahân.

Daw'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau sy'n cael eu gosod heddiw i rym am 4.00am ar 20 Chwefror 2021.