Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyflwynodd y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (“y Rheoliadau Gwybodaeth i Deithwyr”) ofynion i weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol awyr a môr roi gwybodaeth i'w teithwyr am y coronafeirws a’r ddyletswydd i hunanynysu, yn ogystal â gwybodaeth am ganllawiau iechyd y cyhoedd. Daeth y gofynion hyn i rym ar 17 Mehefin 2020.

Ar 10 Gorffennaf, cafodd y Rheoliadau Gwybodaeth i Deithwyr eu diwygio er mwyn newid cynnwys y datganiad iechyd cyhoeddus a gyflwynir i deithwyr yn ystod eu taith, ac i ddileu’r gofyniad i’r datganiad hwn gael ei gyflwyno ar lafar. Cafodd y cyfnod adolygu ar gyfer y Rheoliadau hefyd ei newid o bob 21 diwrnod i bob 28 diwrnod, gan ddechrau ar 23 Gorffennaf 2020.

Heddiw, rwyf wedi gosod y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) (Diwygio) 2020 gerbron y Senedd. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gwybodaeth i Deithwyr ymhellach i alluogi teithwyr i wneud penderfyniad mwy gwybodus ynghylch a ydynt yn dymuno teithio i Gymru ai peidio, drwy wneud y canlynol:

•         rhagnodi’r wybodaeth y mae’n rhaid i weithredwyr gwasanaethau teithio rhyngwladol ei rhoi i deithwyr wrth archebu a chofrestru (check in);

•         ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr gwasanaethau teithio rhyngwladol ddarparu gwybodaeth benodol pellach i deithwyr rhwng 24 a 48 awr cyn eu bod yn teithio i Gymru.

Daw’r diwygiadau hyn i rym ar 4 Tachwedd 2020.